Newyddion S4C

Disgwyl i Fanc Lloegr gyhoeddi cynnydd pellach mewn cyfraddau llog

22/09/2022
Banc / Twll yn y wal / Economi / Arian

Mae disgwyl i Fanc Lloegr gyhoeddi cynnydd mewn cyfraddau llog yn ddiweddarach ddydd Iau.

Ar hyn o bryd, mae cyfraddau llog yn y DU yn 1.75%, ar ôl iddyn nhw gael eu codi o 1.25% ddechrau mis Awst.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae prisiau yn y DU wedi codi - chwyddiant yw'r term am fesur cyflymder y cynnydd hwn.

Ar hyn o bryd mae prisiau wedi codi 9.9% o gymharu â blwyddyn yn ôl, sy'n uwch na'r targed o 2%.

Mae Banc Lloegr yn dweud eu bod yn disgwyl i lefelau chwyddiant godi ymhellach am weddill y flwyddyn cyn iddo ddechrau arafu'r flwyddyn nesaf.

Ymhen dwy flynedd, mae Banc Lloegr yn rhagweld y bydd lefelau chwyddiant yn agosach at y targed o 2%.

Maen nhw'n dweud fod hynny yn bennaf gan nad oes disgwyl y bydd y prif resymau dros y lefelau chwyddiant uchel yn parhau yn yr hirdymor.

Ond mae'r Banc yn rhybuddio y gallai prisiau rhai pethau aros ar lefel uchel o'i gymharu â'r gorffenol.

Daw hyn ar drothwy cyllideb frys ddydd Gwener lle mae disgwyl i'r Canghellor Kwasi Kwarteng gyhoeddi mesurau pellach i helpu gyda'r argyfwng costau byw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.