Newyddion S4C

Cyhuddo dyn o geisio llofruddio yn Aberafan

19/09/2022
Ffordd Fictoria, Sandfields

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhuddo dyn 50 oed o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad yn Aberafan yng Nghastell-nedd Port Talbot nos Sadwrn.

Bydd Adam Calland yn ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Mawrth.

Dywedodd yr heddlu fod dyn 32 oed “mewn cyflwr difrifol” yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn dilyn y digwyddiad ar Ffordd Fictoria yn ardal Sandfields yn y dref.

Ychwanegodd yr heddlu eu bod nhw wedi dod o hyd i fwa croes yno.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.