Newyddion S4C

'Cwpwrdd hollol wahanol' Huw Fash ar ôl colli dros 8 stôn mewn 8 mlynedd

20/09/2022

'Cwpwrdd hollol wahanol' Huw Fash ar ôl colli dros 8 stôn mewn 8 mlynedd

Mae Huw Rees yn adnabyddus i nifer ar draws y wlad fel un o wynebau mwyaf cyfarwydd rhaglen Prynhawn Da.

Ond mae Huw "Fash" fel mae'n cael ei adnabod wedi trawsnewid ei gwpwrdd dillad ei hun ar ôl iddo golli wyth stôn a hanner mewn cyfnod o wyth mlynedd.

Dywedodd wrth Newyddion S4C fod bellach ganddo "gwpwrdd hollol wahanol" ar ôl colli pwysau.

“Nawr i fi’n gwisgo dillad maint cymedrol. Ma’ cwpwrdd hollol wahanol ‘da fi a ma’ hwnna'n un peth hollol positif sydd wedi dod mas o’r cyfan," meddai. 

"Dwi ddim yn twmlo’n well yn ‘yn hunan oherwydd fi ‘di colli’r pwyse, fi’n ‘neud yr un peth nawr. 

"Does gen i ddim mwy o hyder pan wi’n edrych yn y ddrych oherwydd fi’n dal yn edrych yn y ddrych a meddwl bo fi’n berson tew.  ‘Na beth fi’n gweld fan hyn, fi’n edrych yn y ddrych a gweld fi yr un maint ag o’n i o’r blaen. 

"Fi’n cael sioc pan fi’n gweld llunie, os wela i lun o’n hunan blynydde ‘nôl, a chi’n gweld nhw nawr, a fi ‘di rhannu un o rheina wthnos hyn ar social media jyst i ddangos i bobol bod e’n bosib hyd yn oed pan bo ‘da chi dim ewyllys bersonol fel ‘sda fi.  Fi’n gweld llun a fi wir ffaelu cofio bod y maint hynny.”

Image
Huw Fash
Huw Rees yn 2011 a 2021.  Llun: Huw Rees/Instagram

'Ddim yn teimlo'n hwylus'

Yn ôl Huw, fe ddechreuodd ei daith colli pwysau wyth mlynedd yn ôl wedi iddo ymweld â'r ysbyty yn dilyn pryderon gan ffrind.

“Daeth cyfnod rhyw wyth mlynedd yn ôl lle o’n i newydd ddod off awyr ar Prynhawn Da a mynd lan i’r gegin a o’n i’n yfed paned o de a byta darn o cacen ffrwyth," meddai.

"O’n i jyst ddim yn twmlo’n hwylus a ‘ma ffrind i fi’n dod miwn a dweud ‘Ww, ma’ golwg ofnadw’ arnat ti’.  Heb weud gair ‘Ma’ golwg ofnadw’ arnat ti’.  A wedes i ‘Fi ddim yn twmlo’n hwylus, sai’n gwbod beth sydd yn bod’. 

"O’dd Bethan wedi panico gymaint a'th hi allan o’r ffreutur a ffonio ambiwlans a pan ddaeth yr ambiwlans nethon nhw ddarganfod bod rhywbeth wedi digwydd i’r galon felly y siwrne byr o’dd o fewn pythefnos o’n i’n cael llawdriniaethau ar y galon, o’n i’n cael bypasses a pob math o bethau. 

"Ac wrth gwrs rhaid cofio o’n i’r math o berson o’dd yn mynd i gael rhywbeth ar y galon, o’n i ‘di cario’r gorbwysedd ‘ma am gymaint o flynydde.

“Ond anyway yn yr amser ‘ny ddechreues i golli pwyse, golles i rhyw bedwar stôn.  Ddes i lawr i rhyw 18 stôn o’r 22 stôn...a nes i barhau ar y pwyse ‘na am gyfnod o rhyw dair neu bedair blynedd."

'Wedyn daeth Covid'

Ond nid oedd y siwrne yn un hawdd, gyda phandemig Covid-19 yn gyfnod heriol i Huw.

"Ac wedyn daeth Covid ac wrth gwrs pan ddaeth Covid, ddes i i nabod fy nghymdogion fan hyn. ‘Na gyd o’dd yn cadw chi’n hapus wrth gwrs oedd cael bwyd wedi delifro i’r tŷ," meddai.

Mae Huw hefyd yn ymarfer corff yn rheolaidd gan fynd â Griff y ci am dro bob bore.

“Dwi nawr ddim yn byta hanner y bwyd o’n i’n byta cyn nawr.  Nes i gael ci yn ystod Covid. Wrth gwrs o’n i’n sôn am Griff y ci, sy’n golygu bo fi’n cerdded am awr bob bore, rhwbeth o’n i byth yn ‘neud o’r blaen."

“Bydden i byth, byth, byth yn ishte fan hyn yn rhoi unrhyw gyngor petai fi’n gwbod e i gyd i unrhyw un sydd heb golli pwyse achos wi’n byw yn ‘yn ofn o hyd bydda i ‘nôl yn dodi’r pwyse ‘ma ‘mlan ar rhyw gyfnod."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.