Yr Ysgrifennydd Iechyd Wes Streeting wedi ymddiswyddo

Wes Streeting

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Wes Streeting wedi ymddiswyddo o lywodraeth Syr Keir Starmer brynhawn Iau, gan ddweud ei fod wedi "colli hyder" yn ei arweinyddiaeth.

Daw ei ymddiswyddiad ar ôl i'r Blaid Lafur brofi ffraeo cyhoeddus ymysg ei rhengoedd ar ddechrau'r wythnos yn dilyn canlyniadau trychinebus y blaid yn yr etholiadau'r wythnos diwethaf.

Nid yw Mr Streeting wedi cyflwyno cais am swydd Syr Keir eto, ond y gred yw bod yr Ysgrifennydd Iechyd yn paratoi i wneud hynny.

Dywedodd wrth y Prif Weinidog ei bod hi’n "amlwg na fyddwch chi’n arwain y Blaid Lafur i’r etholiad cyffredinol nesaf".

Yn ei lythyr ymddiswyddo, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd: "Mae bellach yn amlwg na fyddwch yn arwain y Blaid Lafur i mewn i’r etholiad cyffredinol nesaf, a bod Aelodau Seneddol Llafur ac Undebau Llafur eisiau i’r ddadl am beth ddaw nesaf fod yn frwydr o syniadau, nid o bersonoliaethau.

"Mae angen iddi fod yn eang, ac mae angen iddi gynnwys yr ymgeiswyr gorau posib.

"Rwy’n cefnogi’r dull hwnnw ac yn gobeithio y byddwch yn ei hwyluso."

Os bydd yn herio Keir Starmer am yr arweinyddiaeth, bydd angen cefnogaeth 81 aelod seneddol Llafur ar Mr Streeting i ddechrau cystadleuaeth ffurfiol.

Er bod tua 87 o ASau wedi galw’n gyhoeddus hyd yn hyn am ymddiswyddiad Syr Keir, nid ydynt wedi uno y tu ôl i unrhyw ymgeisydd i’w ddisodli.

Enwau posib

Ymhlith yr enwau allai herio'r prif weinidog mae’r cyn-ddirprwy brif weinidog Angela Rayner, yr Ysgrifennydd Ynni a chyn-arweinydd y blaid Ed Miliband a’r gweinidog lluoedd arfog Al Carns.

Mewn erthygl yn The New Statesman ddydd Iau, dywedodd Mr Carns: “Nid oes angen mwy o sloganau, strategaethau, datganiadau i’r wasg na chomisiynau arnom. Mae angen gweithredu.”

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog David Lammy wedi cwestiynu a all unrhyw un o gystadleuwyr y prif weinidog gasglu’r gefnogaeth angenrheidiol i lansio ymgyrch am yr arweinyddiaeth.

Mae disgwyl i Syr Keir ei hun ymladd unrhyw her am ei arweinyddiaeth, a threuliodd brynhawn dydd Mercher yn cwrdd â gweinidogion ac ASau Llafur wrth iddo geisio osgoi cael ei ddisodli.

Yn ddiweddarach dydd Iau bydd yn ceisio ail ennill rheolaeth dros yr agenda wleidyddol gan gyflwyno deddfwriaeth i ailwampio tai cymdeithasol a’r “hawl i brynu”.

Cyn cyflwyno'r Bil Adnewyddu Tai Cymdeithasol, sydd i fod i hybu'r cyflenwad o dai cyngor, dywedodd Syr Keir fod ei Lywodraeth yn "cymryd cyfrifoldeb, yn ailadeiladu tai cymdeithasol, ac yn cyflawni'r newid y pleidleisiodd pobl drosto".
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.