Ysgolion i gau am ddeuddydd mewn nifer o siroedd yng Nghymru o achos y gwres eithafol
Mae nifer o ysgolion yng Nghymru wedi cyhoeddi y byddant yn cau, yn cau'n gynnar neu’n symud at ddysgu ar-lein ddydd Mercher a dydd Iau oherwydd y tywydd poeth eithafol.
Mae Cyngor Blaenau Gwent a Chyngor Torfaen wedi cadarnhau y bydd pob ysgol yn eu hardaloedd ar gau am ddeuddydd.
Dywedodd Cyngor Sir Gâr a Chyngor Caerffili fod holl ysgolion uwchradd yn eu hardaloedd ar gau ddydd Mercher ac Iau yn sgil y gwres.
Mae nifer o’r ysgolion sydd wedi newid eu trefniadau yn ne-ddwyrain Cymru, sydd o fewn ardal rhybudd coch y Swyddfa Dywydd.
Dyma lefel uchaf y system rybuddio, ac mae de Cymru hyd at ardal Abertawe wedi’i chynnwys.
Bydd y rhybudd mewn grym rhwng 09:00 ddydd Mercher 24 Mehefin a 21:00 ddydd Iau 25 Mehefin.
Mae disgwyl i’r tymheredd yn y cysgod godi’n uwch na 37C, gan gyrraedd rhwng 38C a 40C mewn rhai mannau.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio bod effeithiau iechyd ar draws y boblogaeth gyfan yn debygol, ac nid dim ond ymhlith y bobl sydd fel arfer yn fwy agored i wres.
Gallai’r amodau hefyd arwain at newidiadau sylweddol i drefniadau bob dydd a tharfu ar drafnidiaeth a gwasanaethau hanfodol.
Nid oes cyfarwyddyd cenedlaethol bod yn rhaid i bob ysgol gau hyd yma.
Mae cynghorau ac ysgolion unigol yn gwneud penderfyniadau ar sail eu hadeiladau, amodau lleol a lles disgyblion a staff.
Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau ysgolion ym mhob ardal sydd wedi eu heffeithio isod:
Blaenau Gwent - Pob ysgol ar gau ar 24 a 25 Mehefin
Torfaen - Pob ysgol ar gau ar 24 a 25 Mehefin
Sir Gâr - Pob ysgol uwchradd ar gau ar 24 a 25 Mehefin
Casnewydd - Pob ysgol ar gau ar 24 a 25 Mehefin - heblaw am Ysgol Gynradd Parc Malpas, Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff, Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair ac Ysgol Gynradd Gatholig Sant Padrig. Bydd cyfle i rieni'r ysgolion hyn gasglu eu plant ar ôl amser cinio.
Caerdydd - Gwiriwch wefan yr ysgol benodol
Bro Morgannwg - Gwiriwch wefan yr ysgol benodol