Ymosodiadau 'trwm' newydd ar Iran gan luoedd America

Ymosodiad

Mae lluoedd arfog yr Unol Daleithiau yn dweud eu bod wedi lansio ymosodiadau “trwm” yn erbyn Iran ddydd Mercher.

Roedd hynny mewn ymateb i ymdrechion gan Iran i ymosod ar luoedd America yn yr Iorddonen â thaflegrau balistig, ac ymosodiadau ar longau yng Nghulfor Hormuz, medden nhw.

Am y tro cyntaf, cyhoeddodd yr Unol Daleithiau a Saudi Arabia eu bod wedi cynnal ymosodiadau ar y cyd yn erbyn grwpiau yn Irac sy’n cael eu cefnogi gan Iran.

Pan lansiodd yr Unol Daleithiau ac Israel ymosodiadau milwrol ar Iran ym mis Chwefror, dywedodd yr Arlywydd Donald Trump mai dim ond ychydig wythnosau y byddai’r rhyfel yn para. 

Ond mae wedi parhau am bum mis, heb unrhyw arwydd ei fod yn dod i ben.

Mae’r gwrthdaro wedi ailgynnau ar ôl sawl diwrnod cymharol dawel.

Am sawl diwrnod, fe wnaeth y ddwy ochr roi’r gorau i ymosodiadau wrth i drafodaethau ailddechrau yn y gobaith o ddod o hyd i ateb diplomyddol. 

Disgrifiodd Trump y trafodaethau fel rhai “cyfeillgar iawn”, ond gwadodd Tehran fod unrhyw drafodaethau’n digwyddo gwbl.

Dechreuodd yr ymosodiadau ddydd Mercher am 20:00 amser dwyreiniol yr Unol Daleithiau — 01:00 BST ddydd Iau — a pharhau am tua awr.

Dywedodd canolfan filwrol ganolog UDA, Centcom, eu bod yn “ymateb grymus i ymdrechion Iran ddoe i ymosod ar luoedd yr Unol Daleithiau sydd wedi’u lleoli yn y Dwyrain Canol”.

Cafodd pob un o daflegrau Iran eu rhyng-gipio, meddai Centcom.

Dywedodd Centcom ar ôl i’r ymosodiadau ddod i ben fod yr Unol Daleithiau wedi targedu “canolfannau rheoli milwrol, cyfleusterau taflegrau a dronau, safleoedd gwyliadwriaeth ac amddiffyn yr arfordir, a galluoedd morwrol”.

Oriau cyn cyhoeddi’r ymosodiadau, addawodd Trump i ymateb i ymgais Iran i ymosod ar filwyr yr Unol Daleithiau ddiwrnod ynghynt.

Dywedodd arlywydd yr Unol Daleithiau wrth ohebwyr yn y Tŷ Gwyn: “Rydyn ni’n mynd i’w taro nhw’n galed iawn oherwydd ein tro ni yw eu taro nhw.

“Maen nhw’n gwybod ei fod yn dod. Fe wnaethon nhw ofyn i ni beidio â gwneud hynny.”

Dywedodd yr IRGC ei fod wedi targedu canolfan awyr a chanolfan reoli’r Unol Daleithiau yn yr Iorddonen “mewn ymateb i weithredoedd ymosodol byddin America sy’n lladd plant”.

Dywedodd hefyd fod ei luoedd llyngesol wedi taro tri thancer olew yng Nghulfor Hormuz. 

Yn ôl yr IRGC, roedd y llongau wedi “anwybyddu rhybuddion” ac wedi hwylio ar hyd yr hyn a ddisgrifiodd fel “llwybr anniogel ac anghyfreithlon” drwy’r ddyfrffordd bwysig yn y Gwlff.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.