Ymosodiadau gan gŵn wedi cynyddu dros 80% ers 2020

XL Bully

Mae ymosodiadau gan gŵn sydd wedi arwain at anafiadau ledled y DU wedi cynyddu dros 80% ers 2020.

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod ymosodiadau gan gŵn allan o reolaeth sy'n achosi anaf a gofnodwyd gan yr heddlu wedi codi o 16,040 yn 2020 i 29,400 y llynedd – sef cynnydd o 83%.

Mae nifer yr ymosodiadau wedi parhau i gynyddu er gwaethaf gwaharddiad ar y brîd XL bully, a ddaeth i rym ym mis Chwefror 2024.

Llundain oedd yr ardal gyda'r nifer uchaf o ymosodiadau gan gŵn yn 2025 - fe wnaeth Heddlu'r Met gofnodi 2,530 o achosion.

Cofnododd Heddlu Manceinion yr ail nifer uchaf o achosion gyda 1,678 o ymosodiadau yn digwydd yno.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.