Ymgynghori ar roi blaenoriaeth i osod ceblau trydan o dan y ddaear cyn codi peilonau

Dim peilonau

Mae ymgynghoriad wedi'i lansio gan Lywodraeth Cymru ar bolisi cynllunio newydd a fyddai'n rhoi blaenoriaeth i osod ceblau trydan o dan y ddaear yn gyntaf cyn eu rhoi ar beilonau traws gwlad.

O dan y polisi, dim ond pan fo profion cynllunio penodol yn cael eu bodloni y byddai opsiynau uwchben y ddaear yn cael eu defnyddio.

Mewn achosion pan fyddai angen defnyddio peilonau, byddai rhaid iddynt ddefnyddio polion pren isel neu seilwaith tebyg fyddai'n cael llai o effaith ar dirwedd.

Roedd maniffesto Plaid Cymru ar gyfer etholiad y Senedd ym mis Mai wedi ymrwymo i wrthod caniatâd ar gyfer peilonau dur ar gysylltiadau trydan newydd fyddai dan reolaeth y llywodraeth.

Llywodraeth Cymru sydd yn gyfrifol am benderfyniadau cynllunio sydd yn ymwneud gyda llinellau newydd sydd yn cludo hyd at 132kv o drydan. 

Mae llinellau foltedd uchel yn fater i lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac ni fyddai unrhyw newid mewn polisi cynllunio gan Lywodraeth Cymru yn effeithio ar gynlluniau foltedd uchel.

Roedd y Llywodraeth Lafur blaenorol yn Senedd Cymru o blaid gosod ceblau dan ddaear ond bod angen cymryd “safbwynt cytbwys o ran costau, a allai olygu bod prosiectau a fyddai’n dderbyniol fel arall, yn anhyfyw".

Ymgyrchu

Mae yna ymgyrchu mawr wedi bod yn erbyn rhwydwaith posib o beilonau yn Nyffryn Tywi, o fferm wynt arfaethedig Bute Energy yn Nant Mithill ym Mhowys i is-orsaf newydd yn Llandyfaelog ger Caerfyrddin.

Mae cwmni Green GEN Cymru, is-gwmni Bute Energy, yn cynnal chwe digwyddiad ymgynghori ar lwybr peilonau newydd ynghyd â defnyddio polion newydd a thanddaearu mewn mannau penodol o Gymru ar hyn o bryd.

Yn gynharach eleni, fe aeth 500 o dirfeddianwyr â chwmni Green GEN Cymru i'r Uchel Lys, gan eu cyhuddo o "godi ofn" drwy ymddangos ar ffermydd yn ddirybudd.

Dyfarnodd yr Uchel Lys bod angen i'r cwmni roi mwy o rybudd i ffermwyr a chymryd gwell ystyriaeth o'r perygl o ledu clefydau anifeiliaid o fferm i fferm.

Yng ngwyneb protestiadau am eu cynlluniau i ddatblygu rhwydwaith newydd o beilonau, fe wnaeth Green GEN Cymru gyhoeddi dyluniad o beilon 'monopôl' newydd tua 22 metr o uchder ym mis Awst.

Byddai'r 'monopôl' tua hanner uchder peilon 275kV arferol.

Y disgwyl yw y bydd dyluniad cyntaf y monopôl fod yn barod ar ddechrau 2027.

'Ymrwymiad maniffesto'

Wrth gyhoeddi'r ymgynghoriad ar danddaearu ddydd Gwener, dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price: "Rydym yn cyflawni ein hymrwymiad maniffesto i roi terfyn ar y defnydd o beilonau delltog dur a sicrhau mai'r sefyllfa ddiofyn ar gyfer llinellau trydan newydd yng Nghymru yw eu gosod o dan y ddaear.

"Mae'r trawsnewid i system ynni carbon isel yn ganolog i'n huchelgais i gyrraedd sero net erbyn 2040 ac i gyflawni ein cenhadaeth cynhyrchiant.

"Rydym yn gwybod y bydd angen seilwaith grid newydd ar y newidiadau angenrheidiol yn y ffordd y mae ynni'n cael ei gynhyrchu a'i ddefnyddio yng Nghymru, ond rydym hefyd yn gwybod y gall seilwaith newydd effeithio ar y cymunedau a'r amgylchedd sy'n ei gynnal."

Ychwanegodd y gweinidog: "Rydym eisiau gweld seilwaith sydd wedi'i gynllunio'n sensitif i leihau'r effeithiau ar yr amgylchedd a'r cymunedau sy'n ei gynnal, gan gynnig y manteision mwyaf posibl i Gymru.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.