Ymchwiliad llofruddiaeth: Teyrnged i 'dad balch' a fu farw ym Mhencoed

David Rogers

Mae teulu 'tad balch' a fu farw yn yr ysbyty wedi digwyddiad ym Mhencoed, Pen-y-bont ar Ogwr wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw David Rogers, 58 ddydd Llun ar ôl treulio cyfnod yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol.

Mae Liam Walters, 26 o Bencoed wedi’i gyhuddo o lofruddio David Rogers.

Dywedodd teulu Mr Rogers ei fod yn "dad balch" a bod ei deulu yn "golygu popeth iddo".

"Roedd David yn dad balch i Aaron, Cory, Kane a Saul," meddai.

"Roedd yn frawd ymroddedig i'w chwaer Bethan, yn ewythr i'w nith a'i nai, Lewis a Leah, a mab annwyl i'w fam, Judy.

"Roedd teulu'n golygu popeth iddo. Roedd wrth ei fodd yn mynd ar anturiaethau dramor, yn chwarae golff yng Ngwesty'r Vale, ac yn cael ei adnabod fel 'Disco Dave'.”

Image
David Rogers
David Rogers

Ychwanegodd ei bartner, Abbie bod pawb oedd yn adnabod Dave "yn ei garu".

"Fel teulu nid ydym yn gwybod sut y byddwn yn symud ymlaen hebddo," meddai.

"Mae angen amser arnom i alaru. Wrth gwrdd a'n gilydd roedden ni wedi darganfod person oedden ni eisiau treulio gweddill ein bywyd yn ei gwmni.

"Caru ti am byth, David."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.