Wrecsam: Yr amgueddfa newydd sy'n dathlu hanes pêl-droed yng Nghymru
Wrecsam: Yr amgueddfa newydd sy'n dathlu hanes pêl-droed yng Nghymru
Mi fydd amgueddfa newydd yn Wrecsam sy'n olrhain hanes pêl-droed yng Nghymru ac yn croniclo hanes y ddinas yn "llenwi bwlch mawr’" yn ôl y trefnwyr.
Mae'r amgueddfa sy'n agor ddiwedd mis Medi yn rhoi llwyfan i rai o arteffactau pwysica'r byd pêl-droed gyda’r hynaf yn deillio o 1899.
Mae hanner yr amgueddfa wedi ei chlustnodi i ddathlu ac arddangos hanes dinas Wrecsam dros gyfres o ganrifoedd.
Mi fydd modd archebu tocynnau i ymweld â’r amgueddfa o ddydd Llun ymlaen gyda’r drysau i agor yn llawn ar y 25 Medi.
Mae’r amgueddfa yng nghanol dinas Wrecsam yn gartref i nifer o arteffactau sy’n adrodd stori a pherthynas Cymru gyda phêl-droed o’r gêm ryngwladol gyntaf nôl ym 1877.
Un o’r eitemau mwyaf gwerthfawr yn y casgliad ydi cap a roddwyd i’r chwaraewr pêl-droed William Harrison yn 1899.
Mi dreuliodd y cap blynyddoedd maith yn Awstralia ond yn 2021 mi gafodd ei roi i Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn rhodd gan deulu Harrison.
Eitem arall gwerthfawr yw telegram gwreiddiol o 1958.
Dyma oedd y flwyddyn gyntaf i Gymru chwarae mewn Cwpan y Byd ac ar y pryd mi oedd un o sêr y gêm, John Charles yn chwarae i Juventus yn yr Eidal.
Mae’n debyg oedd dipyn o waith i ddwyn perswâd gan reolwyr Cymru i Juventus ryddhau Charles i chwarae dros ei wlad, gan gofio nad oedd yr Eidal wedi cymhwyso.
Wedi trafodaethau lu mi gafodd Charles ei ryddhau ychydig o ddyddiau’n unig cyn y gêm gyntaf a’r Telegram yn dangos o bosib pa mor amharod oedd yr Eidalwyr i wneud hynny.
'Dangos y gorau o Gymru'
Yn ôl Prif Weithredwr Cyngor Sir Wrecsam Alwyn Jones mae’r amgueddfa yn ddathliad o bêl-droed ac o Wrecsam.
“Dwi’n meddwl bod ni angen dangos y gorau o ni fel Cymry, ac o Wrecsam”, meddai.
“Da ni am ddangos y gorau o be sydd o ran pêl-droed, sut mae pêl-droed yn dod â phobl at ei gilydd a hynny ar draws [gêm y] merched, dynion a chymunedau.
“Yn yr un modd da ni eisiau dangos hanes sydd ganddyn ni lot o barch at yn Wrecsam.”
Yn ôl Mr Jones mae gan yr amgueddfa newydd rôl bwysig.
“Yn y gogledd, mae 'na fwlch wedi bod, dwi’n gwybod fod 'na sawl amgueddfa yn y de, ond i ni yn y gogledd dwi’n meddwl fod hwn yn llenwi’r bwlch yn dda ac mae’r hanes sydd ganddom ni yma’n Wrecsam, mae’n adrodd hanes sawl cymuned ar draws y gogledd hefyd.”
Mi gyfrannodd Llywodraeth Cymru £6m i’r prosiect ac yn ôl y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon mae’r atyniad newydd yn siŵr o ddenu pobl o bell ac agos.
“Mae’n dangos stori Wrecsam o fewn cyd-destun Cymru fel cenedl - mae ‘na rhywbeth yma i bawb, mae 'na oriau i dreulio yma yn mwynhau’r casgliadau.
“Ond hefyd lle i ddod nôl yma a darganfod mwy oherwydd mae’r gofodau dros dro hefyd yn bwysig.”
Pêl arbennig
Mae’r amgueddfa yn gartref i nifer o arteffactau, hen a newydd ac yn dangos hanes y gamp o’r dechrau hyd heddiw.
Mae nifer yn rhoddion gan aelodau’r cyhoedd, a hynny’n cynnwys un bêl arbennig meddai Sion Lewis, Swyddog Ymgysylltu'r Amgueddfa.
Tu ôl i gist wydr mae pêl ledr sydd â stori ryfeddol
“Mi gafodd o ei wneud yn Llangollen ac mae’n bêl swyddogol i Gymdeithas Bêl-droed Cymru ar gyfer gêm ‘da ni’n amau o’r 1920au," meddai Mr Lewis.
“Felly un o’r gemau mawr cyntaf i Gymru wedi i’r rhyfel mawr orffen ac wrth i bêl-droed ryngwladol gychwyn.
“Ond da ni newydd fod yn siarad ac wedi darganfod mwy o hanes amdano fo, ond mae’n edrych fel ei bod hi’n hyn na be oedda ni’n meddwl yn y lle cyntaf."
Mae Sion Lewis wedi bod ynghlwm â’r gwaith o guradu ers blynyddoedd ac yn dweud wrth weld y prosiect yn dod ynghyd ei fod yn teimlo’n emosiynol.
“Di hanes ddim yn stopio ar ôl 90 munud a da ni ddim eisiau rhoi'r hanes mewn cas a chau’r drws.
“Mae mwy o waith i wneud a gobeithio mwy o hanes i ddarganfod yn y dyfodol."