'Wir angen newid': Ydy ffrind Trump a Putin ar fin colli gafael ar Hwngari?

Hwngari

Adroddiad Siôn Pennar o Hwngari ar drothwy etholiad y wlad. 

Closiodd sgarmes o gefnogwyr at Péter Magyar ar ddiwedd ei rali swnllyd yn nhref fach Hatvan, pob un yn gobeithio am hunlun neu gair bach gyda'r dyn a allai, cyn hir, fod yn arweinydd ar Hwngari.

Mae Magyar yn anelu at ddisodli'r prif weinidog ers 16 mlynedd, Viktor Orbán, yn etholiadau cyffredinol y wlad ddydd Sul - ac mae'n ymddangos fod ganddo wir gyfle i wneud hynny.

Dyma'r her fwyaf i'r ceidwadwr poblyddol Orbán ers iddo ddod i rym am yr eilwaith yn 2010 gyda gweledigaeth wrth-ryddfrydol ac ewrosgeptig sydd wedi denu edmygaeth gan fudiadau asgell dde ar draws y byd. Mae Donald Trump yn un o'i gefnogwyr ar y llwyfan rhyngwladol - a Vladimir Putin yn un o'i bartneriaid pwysicaf. 

"Mae'r Undeb Ewropeaidd a'r gorllewin yn llawer gwell na'r regime Rwsiaidd yma," meddai Léna Hargitai, un o drigolion Hatvan, gan gymharu Hwngari dan Orbán i Rwsia dan Putin.

Yn 18 oed, dyma fydd ei chyfle cyntaf i fwrw pleidlais - a Magyar, ceidwadwr mwy rhyddfrydol, sy'n cario'i gobeithion. "Mae'r wlad wir angen newid, dwi ddim yn credu ei bod hi'n wlad ddemocrataidd bellach," meddai wrth Newyddion S4C. 

Image
Léna Hargitai
Mae Léna Hargitai yn pleidleisio am y tro cyntaf.

Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod elfen o wir yn hynny.

Dros y blynyddoedd, mae Orbán a'i blaid, Fidesz, wedi canoli grym, gan ymestyn dylanwad gwleidyddol dros y llysoedd, y cyfryngau, a sawl agwedd arall o fywyd. Law yn llaw â hynny, mae ei lywodraeth wedi hyrwyddo gwerthoedd traddodiadol, Cristnogol a chenedlaetholgar, gan gynnwys gwrthwynebiad clir i'r gymuned LHDT+ a mewnfudo.

Er bod eraill wedi dilyn llwybr tebyg - llywodraeth flaenorol Gwlad Pwyl yn un enghraifft amlwg - mae hirhoedledd Orbán wedi ei wneud yn "fodel" i wleidyddion eraill ei ddilyn, yn ôl Viktória Serdült, newyddiadurwr gyda'r cylchgrawn annibynnol HVG.

Ond mae Magyar wedi llwyddo i adeiladu mudiad, Tisza, a allai gipio'r awenau. Mae'n ffigwr "gwahanol iawn" i wrthwynebwyr Orbán yn y gorffennol, meddai Serdült - yn rhannol am ei fod yn gyn-aelod o blaid y prif weinidog. 

"Y peth cyntaf i'w ddweud ydi bod Magyar yn dod o Fidesz... mae'n adnabod y blaid o'r tu mewn," meddai, gan nodi bod ei gyn-wraig yn weinidog cyfiawnder i Orbán tan 2023.

"Yr ail beth ydy ei gymeriad a'i garisma. Dydy o ddim ofn Fidesz a'r rhai mewn grym."

Orbán, Putin a Trump

Mae'n ansicr pa fath o bolisïau rhyngwladol y byddai Magyar yn eu dilyn pe bai'n dod i rym ar ôl y pleidleisio ddydd Sul. Ond mae'n debyg byddai gan yr Undeb Ewropeaidd bartner fwy parod, o ystyried bod Orbán, ers blynyddoedd, wedi bod yn ddraenen yn ystlys Brwsel - ac Wcráin.

O fewn yr undeb, mae ceisio atal a glastwreiddio sancsiynau ar Rwsia, gan barhau i fewnforio olew Rwsiaidd - pwnc sydd wedi troi'n ffrae danbaid gyda Volodymyr Zelenskyy, yn enwedig ers i'r cyflenwad gael ei dorri ym mis Ionawr. 

Image
Etholiad Hwngari.
Poster etholiadol.

Mae Hwngari ar hyn o bryd yn atal benthyciad gwerth €90 biliwn gan yr UE i Wcráin, ac mae Orbán wedi ceisio defnyddio'r ffrae i danio dychymyg ei gefnogwyr pybyr, gan bortreadu Magyar ar bosteri sy'n britho Bwdapest fel dyn Zelenskyy.

"Bellach, mae 'na dystiolaeth bod Orbán wedi bod yn ymyrryd mewn penderfyniadau Ewropeaidd ar ran y Kremlin," meddai Mared Gwyn, newyddiadurwr Euronews, wrth Newyddion S4C.  "Felly mae 'na gwestiwn, pe bai Orbán yn colli, fyddai rhywun arall yn camu fewn ac yn gwneud y gwaith hwnnw ar ei ran?"

Mae Donald Trump a'r Tŷ Gwyn wedi gwneud eu barn nhw'n hollol glir drwy anfon JD Vance, y dirprwy arlywydd, i annerch rali Orbán ddechrau'r wythnos. Dyma etholiad lle mae un o gewri'r dde geidwadol gwrth-ryddfrydol dan fygythiad: a bydd y canlyniad yn adleisio ymhell tu hwnt i Hwngari.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.