‘Fel un teulu mawr’: Ysgol Gymraeg Evan James yn dathlu 40 mlynedd
‘Fel un teulu mawr’: Ysgol Gymraeg Evan James yn dathlu 40 mlynedd
Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James ym Mhontypridd wedi cynnal cyfres o ddathliadau i nodi 40 mlynedd ers iddi agor ei drysau yn 1986.
Daeth disgyblion, athrawon, rhieni, cyn-ddisgyblion a chyn-athrawon ynghyd ddydd Iau 2 Gorffennaf ar gyfer Efwyl, gŵyl gymunedol i ddathlu pen-blwydd yr ysgol.
Rhwng y pizza, yr hufen iâ, y canu a’r dawnsio gyda Cyw, bu nifer o bobl yn rhannu eu hoff atgofion o’r ysgol a’u balchder yn ei hanes.
Mae’r ysgol wedi’i henwi ar ôl Evan James, a ysgrifennodd eiriau’r anthem genedlaethol, Hen Wlad Fy Nhadau.
Cyfansoddodd ei fab, James James, y dôn ym Mhontypridd yn 1856, ychydig funudau o safle presennol yr ysgol.
Rydw i fy hunain yn gyn-ddisgybl, wedi gadael bron i 15 o flynyddoedd yn ôl. Felly, fe siaradais i gyda rhai o'r enwau amlwg o hanes yr ysgol.
'Annog Cymry Cymraeg Balch'
Dywedodd Wil Morus Jones, un o gyn-benaethiaid Ysgol Evan James: “Ro’n i’n ail brifathro Ysgol Evan James, ac rwy’n cofio iddi gael ei hagor 40 mlynedd yn ôl.
“Dwi’n falch, falch iawn ohoni.
“Mae’r ysgol, drwy gynnal digwyddiad fel hyn, yn hybu Cymreictod a’r Gymraeg, wrth gwrs. Mae hynny’n elfen bwysig iawn, a does gen i ddim byd ond canmoliaeth iddyn nhw am yr hyn maen nhw wedi’i wneud.”
Roedd Mr Jones hefyd yn rhan o’r gwaith o sefydlu addysg Gymraeg yn yr ardal cyn i’r ysgol agor.
“Ro’n i a ffrind arall wedi sefydlu Cylch Meithrin yn yr ardal ychydig flynyddoedd cyn i’r ysgol gael ei sefydlu,” meddai.
“Erbyn hyn, mae hi wedi datblygu i fod yn un o ysgolion gorau Cymru.
“Mae’r ysgol wedi rhoi gymaint o gysur i mi. Ro’n i’n brifathro yma am tua 12 mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mi dyfodd a thyfodd yr ysgol.
“Mae’r gymuned yn un glos iawn.”
'Creu awyrgylch hapus’
Dywedodd Emma Smith, pennaeth Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James: “Ein nod fel ysgol yw creu awyrgylch hapus a diogel i’n disgyblion, fel eu bod nhw’n awyddus i ddysgu ac yn mwynhau dod i’r ysgol.
“Rydym yn awyddus iawn i weithio mewn partneriaeth â’n rhieni er mwyn i’n disgyblion gyrraedd eu potensial llawn.
“Anogwn ein disgyblion i barchu eraill a dangos cariad tuag at eu gwlad, eu hiaith, eu diwylliant a’u treftadaeth.
“Mae’n flaenoriaeth i ni baratoi ein disgyblion i fod yn ddinasyddion cyfrifol a gofalgar.
“Ein gweledigaeth yw darparu addysg o’r ansawdd gorau drwy gyfrwng y Gymraeg, gan staff ymroddedig a phroffesiynol sy’n anelu at y safonau addysgol gorau posibl.”
Wrth sôn am ddathliadau’r pen-blwydd, dywedodd: “Eleni, rydym wedi trefnu cyfres o ddathliadau drwy gydol y flwyddyn i nodi pen-blwydd yr ysgol yn 40 oed.
“I ddod â’r dathliadau i ben, trefnwyd gŵyl gymunedol o’r enw Efwyl, a oedd yn ddathliad arbennig o’r ysgol a’r gymuned ehangach.
“Roedd yr adloniant yn cynnwys perfformiadau gan gyn-ddisgyblion, disgyblion presennol a Cyw o S4C, ynghyd â nifer fawr o stondinau ar yr iard. Mwynhaodd pawb ddiwrnod llwyddiannus iawn.
“Fel pennaeth yr ysgol, rwy’n hynod falch o’r ffordd y daeth pawb ynghyd.
“Roedd yr ysbryd o waith tîm, cydweithio a chefnogi ein gilydd ar ei orau drwy gydol yr holl ddathliadau.”