‘Un o’r tymhorau tyfu anoddaf erioed’: Tywydd sych yn effeithio ar bwmpenni

ITV Cymru
Pwmpenni

Mae tywydd poeth a sych yr haf wedi cael effaith sylweddol ar gynhaeaf pwmpenni Cymru eleni, gyda rhai ffermydd yn cynaeafu’n gynt nag arfer ac eraill yn gorfod canslo eu digwyddiadau hydrefol.

Yn Fferm Clearwell, ger Caerdydd, mae dros 50,000 o bwmpenni eisoes wedi’u cynaeafu, wrth i’r tywydd cynnes gyflymu’r broses o aeddfedu’r cnwd.

Mae ffermydd pwmpenni ledled Cymru yn denu ymwelwyr sy’n teithio o bell ac agos i ddewis pwmpen ar gyfer Calan Gaeaf.

“Y dyddiau hyn, mae bron fel cystadleuaeth i weld pwy sy’n gallu creu’r arddangosfa orau o flaen eu tŷ,” meddai Alex Phillips.

Mae teulu Alex wedi bod yn rhedeg y fferm ers dros ganrif, ac wedi gweld cynnydd yn y duedd o addurno cartrefi yn ystod tymor yr hydref.

Image
Pwmpenni

Dechreuodd fel fferm yn tyfu cynnyrch i’w werthu i’r gymuned leol, ond mae wedi arallgyfeirio’n sylweddol dros y blynyddoedd.

“Dechreuon ni dyfu coed Nadolig, a rhoi cynnig ar dyfu afalau seidr ar yr un pryd,” meddai tad Alex, David Phillips.

“Rydyn ni wedi rhoi cynnig ar bethau gwahanol, ac mae rhai ohonyn nhw’n datblygu’n naturiol.”

Ychwanegodd fod y farchnad leol wedi dechrau dirywio wrth i archfarchnadoedd mawr ehangu ar ddiwedd yr 1980au. Erbyn 2000, roedd gwerthiannau’r fferm wedi gostwng cymaint nes bod angen newid cyfeiriad y busnes.

Bellach, mae’r fferm yn tyfu 27 o fathau gwahanol o bwmpenni ac yn gartref i bentref pwmpenni unigryw, sy’n cynnwys chwe adeilad maint go iawn wedi’u creu o bwmpenni.

Image
Cae pwmpenni

Er gwaethaf yr amodau tyfu anodd, mae’r fferm wedi gallu agor ei gatiau i’r cyhoedd eto eleni. Ond nid yw pob fferm wedi bod mor ffodus.

Mae Pwmpenni Panthwylog yng Ngheredigion wedi gorfod canslo ei ddigwyddiadau hydrefol blynyddol oherwydd effaith y sychder ar ei gnydau.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y busnes nad oedd ei bwmpenni wedi tyfu’n ddigonol oherwydd y diffyg glaw.

“Rydyn ni’n siomedig iawn, ond gobeithio y byddwn ni’n ôl y flwyddyn nesaf,” meddai’r busnes.

Effaith ehangach ar amaethyddiaeth

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, Gorffennaf 2026 oedd y mis Gorffennaf sychaf erioed yng Nghymru, gyda dim ond 9% o’r glawiad cyfartalog arferol. Haf 2026 hefyd oedd yr haf poethaf erioed yng Nghymru a’r DU, o ran y tymheredd cymedrig.

Mae tyfwyr ledled Cymru yn adrodd bod eu pwmpenni’n llai nag arfer eleni, yn sgil y prinder glaw dros y misoedd diwethaf.

Dywedodd NFU Cymru fod y tywydd poeth wedi effeithio ar gynnyrch amaethyddol, gan orfodi rhai ffermwyr i ddefnyddio stociau o borthiant yr oeddent fel arfer yn eu cadw ar gyfer y gaeaf.

Mae’r tywydd hefyd wedi creu heriau sylweddol i arddwyr.

‘Tymor tyfu annodd’

“Mae’r tywydd poeth eleni wedi cael effaith sylweddol ar nifer o gnydau’r ardd llysiau” meddai Adam Jones, cyd-gyflwynydd Garddio a Mwy.

“Yn bennaf, collwyd nifer o ddail salad yn ystod yr haf oherwydd prinder dwr ac yna yn hwyrach, problemau sylweddol gyda ffrwythau tomato yn hollti ar y planhigion, a tatws ddim yn tyfu’n fawr a swmpus.”

“Yn ogystal â hyn, roedd problemau gyda chnydau yn nheulu’r ffa dringo, wrth iddynt aeddfedu a chaledu yn eithriadol o sydyn yn ystod mis Awst.

“Heb os nag oni bai, dyma un o’r tymhorau tyfu anodd i mi brofi erioed!” dywedodd

Mae’r sychder wedi cael effaith hefyd ar y coed, gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn rhybuddio bod rhai coed yn colli eu dail yn gynharach, gan achosi ‘hydref ffug’.

Efallai y bydd y pwmpenni’n llai eleni, ond bydd y traddodiad o naddu wynebau brawychus yn parhau i lawer wrth i Galan Gaeaf agosáu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.