Un Nos Ola Leuad wedi ysbrydoli dynes o Japan i ddysgu Cymraeg

Yuko Nakauchi

Yn 15 oed, fe aeth Yuko Nakauchi i'r sinema i wylio ffilm yr oedd hi'n meddwl ei bod yn Saesneg.

Ond fe gafodd ei synnu wrth weld mai ffilm Cymraeg Un Nos Ola Leuad oedd yn cael ei dangos.

"O’n i’n licio ffilmiau a cherddoriaeth o Brydain, felly o’n i’n gwylio ffilms ac yn gwrando ar gerddoriaeth o Brydain," meddai Yuko wrth Newyddion S4C.

"So es i i’r sinema i weld beth o’n i’n meddwl oedd ffilm yn Saesneg, ond pan oedd y ffilm wedi dechrau roedd y iaith yn y ffilm yn rhywbeth unexpected i mi, a o’n i’n teimlo’n puzzled."

Ar ôl dod allan o'r sinema, roedd Yuko wedi prynu pamffled a oedd yn cynnwys gwybodaeth am Un Nos Ola Leuad, ac roedd y foment honno wedi newid trywydd ei bywyd yn llwyr.

Penderfynodd ei bod eisiau mynd ati i ddysgu Cymraeg ac aeth ati i gysylltu â phrifysgolion yng Nghymru i chwilio am gyrsiau.

"Doedd dim e-bost ar y pryd, felly nes i sgwennu at pob prifysgol yng Nghymru i ofyn oes rhyw fath o cwrs Cymraeg yn yr haf," meddai.

"Ces i ateb o Brifysgol Caerdydd oedd yn gwneud y cwrs Cymraeg yn yr haf yn Llanbed a wedyn nes i penderfynu i fynd i Llanbed i wneud y cwrs Cymraeg am wyth wythnos.

"Dyna oedd tro cynaf fi yng Nghymru, yn 1997 ac ar y pryd d’on i ddim yn siarad Saesneg chwaith.

"Pan nes i stepio allan o’r bws yn Llanbed - dwi’n dod o Tokyo, dinas mawr - ac wedyn o’n i ar blaned arall yn Llanbed, doedd dim llawer o bobl yna.

"Nes i fywnhau dysgu Cymraeg yna’n fawr, ac roedd y dysgwyr yna yn neis iawn i mi ac yn helpu lot i mi ddeall Cymraeg a Saesneg.

"Oedd e’n rili intensive ac ar ôl yr wyth wythnos nes i gallu cael sgwrs yn Cymraeg."

Image
Dechreuodd daith Yuko i ddysgu'r Gymraeg yn Llanbed yn 1997
Dechreuodd daith Yuko i ddysgu'r Gymraeg yn Llanbed yn 1997

Ar ôl ei chyfnod o wyth wythnos yng ngorllewin Cymru, roedd Yuko wedi dychwelyd i Japan.

Ond roedd hi eisiau mynd yn ôl i Gymru ac astudio'r Gymraeg fel myfyrwraig, gan adael ei hastudiaethau mewn hanes cerddoriaeth a mentro i Aberystwyth.

"Dywedais wrth fy rieni bod fi eisiau mynd i Gymru i ddysgu Cymraeg a cafodd nhw sioc mawr oherwydd fy mod i’n unig plentyn," meddai.

"Oedden nhw ddim wedi clywed am y Gymraeg erioed ac roedd fy mam yn dechrau crio, ond yn y diwedd roedd nhw wedi cytuno i fi mynd i’r brifysgol yn Aberystwyth."

Cymuned glos Aberystwyth

Fe dreuliodd Yuko sawl blwyddyn yn Aberystwyth yn astudio'r Gymraeg.

Roedd Yuko wedi mwynhau ei chyfnod yn y dref ac wedi dod i adnabod nifer o'r bobl a oedd yn astudio ac yn byw gyda hi.

Y peth sydd wedi aros yn ei chof am ei chyfnod yn Aberystwyth yw'r gymuned glos yno.

"Pan nes i ddechrau yn y prifysgol yn Aberystwyth, o’n i’n lico bod y pobl mor agos gyda’i gilydd," dywedodd.

"Fel un sy’n dod o ganol Tokyo do’n i ddim yn gwybod pwy oedd yn byw drws nesaf, felly o’n i’n meddwl bod e’n neis i bwmpio mewn i rywun ti’n nabod ar y stryd a dechrau sgwrs."

Image
Yuko gyda'i chyd-fyfyrwyr yn Aberystwyth
Yuko gyda'i chyd-fyfyrwyr yn Aberystwyth

Super Furry Animals

Yn ystod ei chyfnod yn ôl yn Japan, fe gafodd brofiad sydd wedi aros gyda hi am byth, sef cyfarfod aelodau'r band Super Furry Animals.

"Ar ôl i mi raddio o’r prifysgol yn Aberystwyth es i nol i Japan, ac mae un o fy ffrindiau yn journalist cerddoriaeth ac yn arbenigo mewn cerddoriaeth Cymraeg.

"Gofynodd e i mi i wneud y cyfieithu ar gyfer cyfweliad gyda’r Super Furries.

"O’n i’n hapus iawn i siarad gyda nhw yn Gymraeg oherwydd mod i’n siarad yr iaith.

"So dyna oedd y tro cyntaf i fi gwrdd â’r Super Furries a wedyn dwi wedi gweld Gruff [Rhys] ers hynny pan mae yn Japan neu Stockholm, felly dwi’n nabod Gruff.

"Maen nhw’n fy nghofio fi yn iawn sydd yn grêt, ac maen nhw’n croesawu fi a mor neis pan dwi’n gweld nhw."

Image
Dacwi Hi: Yuko ac aelodau'r Super Furry Animals yn Japan
Dacwi Hi: Yuko ac aelodau'r Super Furry Animals yn Japan

'Rhoi rhywbeth nôl'

Ar ôl treulio blynyddoedd yn Japan, fe symudodd Yuko i Stockholm yn Sweden.

Mae hi bellach yn gweithio fel tywysydd teithiau i dwristiaid o Japan ym mhrifddinas Sweden.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae Yuko hefyd wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau gan Gymdeithas Kansai Dewi Sant, sy'n hyrwyddo Cymru a'r Gymraeg ymhlith pobl yn Japan.

Yn ddiweddar, ar y cyd â menyw o'r enw Chikako Hirono, mae Yuko wedi cychwyn Welshpoint, cyfres o ddigwyddiadau i gyfnewid gwybodaeth rhwng pobl o Gymru a Japan.

Drwy hynny, mae modd i Gymry sy'n byw yn Japan neu'n ymweld â'r wlad gyfarfod â phobl o Japan sy'n dysgu Cymraeg neu sydd eisiau gwybod mwy am Gymru.

Penderfynodd Yuko ddechrau'r fenter hon er mwyn "rhoi rhywbeth yn ôl" i Gymru.

"Wnes i ddechrau Welshpoint oherwydd dwi eisiau rhoi rhywbeth nôl i bobl Cymru achos fy mod i wedi cael cymaint o help a chael cymaint o brofiad unigryw yng Nghymru," meddai.

"Does dim digon o gyfle gyda’r myfyrwyr yn Japan sydd yn dysgu'r iaith i siarad Cymraeg, felly dwi'n chwilio am gyfle iddyn nhw defnyddio eu Cymraeg.

"Felly eleni rydym yn trefnu cyfarfod gyda phobl o Gymru a Japan sydd gyda diddordeb mewn Cymru neu’r Gymraeg.

"O’n i’n meddwl bod fi ishe rhoi rhyw fath o brofiad unigryw yn ôl i bobl Cymru pan maen nhw’n dod i Japan, so dyna rydym yn trial gwneud."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.