Donald Trump am ymestyn y cadoediad gydag Iran
Mae Donald Trump wedi dweud y bydd yn ymestyn y cadoediad rhwng America ac Iran tan y bydd yna gynnydd ar y trafodaethau rhwng y ddwy wlad.
Dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd beth yw sefyllfa'r cadoediad. Roedd disgwyl i'r cytundeb ddod i ben yr wythnos yma.
Y gred oedd y byddai'r Unol Daleithiau yn dechrau bomio Iran unwaith eto ar ôl i'r cadoediad ddod i ben. Ond ar yr unfed awr ar ddeg fe ddywedodd Trump y byddai yn ymestyn y cadoediad.
Dywedodd Arlywydd America y byddai yn gwneud hyn tan y byddai Tehran yn gallu cyflwyno "cynnig unedig" er mwyn symud y trafodaethau heddwch ymlaen.
Yn ôl Trump mae wedi gwneud hyn ar gais Pacistan lle mae'r trafodaethau wedi bod yn cael eu cynnal.
Ond mae hefyd wedi dweud y bydd y blocâd ar borthladdoedd Iran yn parhau.
Mae llefarydd ar gyfer materion tramor Iran wedi dweud wrth y BBC nad ydyn nhw wedi penderfynu eto a fyddan nhw yn anfon cynrychiolwyr i Bacistan ar gyfer trafodaethau gydag America.