Trump i osod tariff o 10% ar 'bob gwlad' wedi penderfyniad y Goruchaf Lys
Mae Donald Trump wedi cyhoeddi ei fod yn gosod tariff rhyngwladol newydd o 10% ar “bob gwlad.”
Daw hynny ar ôl i’r Goruchaf Lys ddyfarnu fod Arlywydd America wedi mynd y tu hwnt i'w awdurdod pan gyflwynodd dollau ar nifer o wledydd ar hyd a lled y byd fis Ebrill y llynedd.
Ddydd Gwener fe benderfynodd y Goruchaf Lys nad oedd gan Donald Trump yr hawl i osod tariffau o’r fath wedi iddo wneud hynny o dan ddeddf oedd i fod i’w defnyddio mewn argyfyngau yn unig.
Ond mae'r Arlywydd Trump wedi gwrthwynebu’r dyfarniad gan ddweud bod y barnwyr wedi eu dylanwadu gan “fuddiannau tramor.”
Dywedodd y byddai gwledydd eraill bellach yn “dawnsio yn y strydoedd, ond na fyddan nhw’n dawnsio yn hir - gallai sicrhau hynny,” meddai.
Toc wedi hanner nos, fe gyhoeddodd ar ei blatfform Truth Social y bydd yn gosod tariff rhyngwladol newydd o 10% ar bob gwlad, yn lle'r tollau a gafodd eu gwrthod gan y Goruchaf Lys.
Mae'n bwriadu cyflwyno hynny yn syth.
Dywedodd: “Mae'n Anrhydedd Mawr i mi fod newydd lofnodi… tariff byd-eang o 10% ar bob gwlad, a fydd yn dod i rym bron ar unwaith. Diolch am eich sylw i'r mater hwn! ARLYWYDD DONALD. J TRUMP.”
Mae’r Unol Daleithiau wedi ennill dros $133 biliwn, sef tua £98.4 biliwn, ers i'r Arlywydd Trump osod y tollau y llynedd.
Maen bosib y bydd angen iddyn nhw ad-dalu’r arian hwnnw.
Ond wrth siarad o’r Tŷ Gwyn fe awgrymodd Donald Trump na fyddai hynny’n digwydd heb frwydr gyfreithiol.
Cyfeiriodd at benderfyniad y Goruchaf Lys fel un “chwerthinllyd,” ond bod hynny’n golygu ei fod bellach yn gallu gosod tollau o dan ddeddfau gwahanol.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod yn disgwyl i’w perthynas “fasnachu freintiedig gyda’r Unol Daleithiau” barhau ar ôl dyfarniad y Goruchaf Lys.
Cafodd y Deyrnas Unedig eu taro gan y gyfradd tariff isaf o 10% y llynedd, wedi cytundeb rhwng Donald Trump a Syr Keir Starmer.
Roedd cyfradd dipyn uwch ar gyfer nifer o wledydd eraill.