Troseddau 'erchyll' yn erbyn bywyd gwyllt 'yn mynd heb eu cosbi'
Mae ymgyrchwyr yn rhybuddio bod troseddau "erchyll" yn erbyn bywyd gwyllt, gan gynnwys draenogod, moch daear, morloi a bodaod tinwyn, yn mynd heb eu cosbi.
Y llynedd roedd bron i 2,150 o adroddiadau am droseddau bywyd gwyllt yn y DU, ond dim ond 41 o euogfarnau ar draws y categorïau gafodd eu hadolygu yn ôl adroddiad blynyddol gan y Wildlife and Countryside Link (WCL), sy'n gasgliad o bron i 100 o grwpiau amgylcheddol.
Yn ôl WCL, dim ond darlun rhannol yw’r ffigurau, gan fod llawer o droseddau yn erbyn bywyd gwyllt yn mynd heb eu canfod, heb eu hadrodd neu heb eu cofnodi.
Ymhlith yr achosion yn yr adroddiad mae moch daear yn cael eu trywanu a’u hymosod gan gŵn, draenog yn cael ei ladd â chatapwlt, a rhywogaethau dan fygythiad yn cael eu masnachu’n anghyfreithlon dan amodau erchyll.
Dywedodd Richard Benwell, prif weithredwr WCL: “Mae’r adroddiad hwn yn datgelu catalog erchyll o greulondeb.
“Pan fydd pobl yn gallu erlid bywyd gwyllt heb fawr o obaith o gael eu cosbi, mae’r gyfraith yn methu’r anifeiliaid y mae i fod i’w hamddiffyn, ac mae hynny’n anfon neges beryglus fod modd cyflawni troseddau yn erbyn bywyd gwyllt heb gosb," meddai.
Caerffili
Ym mis Hydref 2025, cafodd moch daear eu ffilmio’n cael eu trywanu, eu cicio a’u hymosod arnynt yng Nghaerffili.
Cafodd dyn ei garcharu am 16 wythnos a’i wahardd rhag cadw anifeiliaid am oes yn dilyn ymchwiliadau gan yr RSPCA Cymru a Heddlu Gwent.
Daeth 15 dyfarniad euog yn unig o'r 625 o ddigwyddiadau amheus yn ymwneud â moch daear yn 2025, gydag 11 ohonyn nhw'n ymwneud â chŵn yn cael eu hannog yn fwriadol i ymosod ar foch daear.
Mae'r WCL yn tynnu sylw hefyd at yr euogfarn gyntaf yn Lloegr am erledigaeth yr aderyn boda tinwyn ym mis Ionawr 2026.
Cafodd prif geidwad helfa ddirwy ariannol o gyfanswm o £1,520 ar ôl pledio’n euog i ddwy drosedd a gafodd eu cyflawni ym mis Hydref 2024 ar ystâd yn Sir Efrog.
Cynyddodd adroddiadau’r RSPCA am gam-drin bywyd gwyllt hefyd yn sylweddol, o 904 yn 2024 i 1,331 yn 2025.
Cododd adroddiadau am adar gwyllt yn cael eu curo o 58 i 93, tra chynyddodd adroddiadau am ladd amhriodol o 158 i 246.
Fe wnaeth adroddiadau am ddal anifeiliaid yn anghyfreithlon ddyblu o 188 i 415 sef i'r lefel uchaf ar gofnod ers o leiaf 2020.
Cynyddodd adroddiadau am niweidio anifeiliaid gwyllt yn fwriadol hefyd o 645 i 848 yn ôl dogfen y WCL.
Cosbau llymach
Mae’r sefydliad yn galw ar weinidogion i gyflwyno cosbau llymach yn ogystal â darparu mwy o adnoddau i awdurdodau er mwyn cryfhau gorfodaeth.
Dywedodd Richard Benwell “Mae Llywodraeth y DU wedi addo cosbau cryfach y mae mawr eu hangen, ond ni fydd dedfrydau llymach yn golygu llawer os na chaiff troseddwyr eu dwyn gerbron llys.
“Rhaid i weinidogion wneud troseddau mawr yn erbyn bywyd gwyllt yn rhai y mae’n rhaid eu hysbysu, rhoi’r offer a’r adnoddau sydd eu hangen ar yr heddlu, a chryfhau’r system o ddedfrydu a gorfodi.
“Mae bywyd gwyllt Prydain eisoes yn brwydro i oroesi yn sgil dinistrio cynefinoedd a newid hinsawdd. Ni ddylai hefyd orfod dioddef creulondeb ffiaidd a disynnwyr," meddai Mr Benwell.