Dau wedi eu 'hanafu'n ddifrifol' wedi i drên ddod oddi ar y cledrau yn ardal Dwyrain Sussex

tren dwyrain sussex

Mae dau o bobl wedi eu hanafu yn ddifrifol wedi i drên ddod oddi ar y cledrau ger tref yn Nwyrain Sussex, Lloegr, yn ôl y gwasanaethau brys.

Fe gafodd y gwasanaethau brys, gan gynnwys parafeddygon a’r gwasanaeth tân, eu galw i’r digwyddiad. 

Mae lluniau o’r safle yn dangos cerbydau’r trên wedi gwyro i’r ochr gydag aelodau o'r gwasanaethau achub ar ben rhai o’r cerbydau.

Mae’r cwmni trenau Southern Rail wedi cadarnhau bod trên wedi dod oddi ar y cledrau yn yr ardal rhwng Haywards Heath a Lewes.

O ganlyniad, does dim trenau’n gallu teithio rhwng Brighton a Lewes, Haywards Heath a Lewes, na Seaford/Eastbourne ar hyn o bryd.

Mae disgwyl tarfu sylweddol ar wasanaethau tan o leiaf 22:00 nos Iau, ac mae teithwyr yn cael eu cynghori i ohirio eu teithiau neu ddefnyddio llwybr teithio arall.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Heidi Alexander, ei bod yn “bryderus iawn” am y digwyddiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.