Trafnidiaeth Cymru: Talu dros £2 filiwn y llynedd i gludo cwsmeriaid mewn tacsis a bysiau

Rail Replacement

Cafodd dros £2 filiwn ei wario'r llynedd i gludo cwsmeriaid trenau Trafnidiaeth Cymru ar dacsis a bysiau wedi i wasanaethau gael eu hoedi neu’u canslo, yn ôl ffigyrau newydd.

Mae cais Rhyddid Gwybodaeth gan Newyddion S4C wedi datgelu’r symiau sydd wedi’i dalu i gwmnïau bysiau a thacsis er mwyn cludo cwsmeriaid pan mae gwasanaethau wedi’u hoedi neu’u canslo ar ddiwrnod y daith.

Mae’n dangos bod tacsi wedi’i archebu 4,922 o weithiau yn ystod y flwyddyn ariannol 2025/26, yn costio £731,239 – sydd yn gyfartaledd o 13 tacsi bob dydd.

Dros yr un cyfnod, cafodd bws ei archebu ar 2,264 achlysur pan fo gwasanaethau’n hwyr neu wedi’u canslo, gan gostio £1,290,860 i’r cwmni.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dweud mai bysiau a thacsis sydd yn aml "y ffordd fwyaf effeithiol a chyflym o ddarparu trafnidiaeth amgen phan nad yw trenau yn gallu rhedeg," gan fynnu bod perfformiad y cwmni, "yn gyffredinol, yn parhau'n gryf ac yn gwella."

Gwariant ar wasanaethau bws wedi’u cynllunio

Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi ffigyrau sy’n dangos yr hyn a gafodd ei dalu am wasanaethau bws yn lle trên, oedd wedi’u cynllunio o leiaf un diwrnod o flaen llaw.

Dros y tair blynedd diwethaf, y gwariant ar wasanaethau bws yn lle trên oedd £39,242,370.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn dweud bod gwaith sylweddol i drydaneiddio llinellau craidd y Cymoedd wedi cyfrannu at y costau yma, gyda £18,552,408 yn cael ei wario yn ystod blwyddyn ariannol 2023/24, a £9,705,959 yn ystod 2024/25.

Image
Rail Replacement
Dros y tair blynedd diwethaf, y gwariant ar wasanaethau bws yn lle trên oedd £39,242,370

Roedd cynnydd yn yr hyn a gafodd ei wario yn y flwyddyn 2025/26, gyda’r ffigwr yn codi i £10,984,001.

Bysus a tacsis

Mae’r ffigyrau a gafodd eu rhannu ynglŷn â’r hyn a gafodd ei wario ar deithiau tacsi a bws er mwyn cludo cwsmeriaid pan gafodd trenau eu hoedi neu’u canslo yn cyfateb i’r ddwy flynedd ariannol ddiwethaf.

Yn 2024/25, cafodd 4,772 o deithiau tacsi eu cofnodi, gyda chost o £590,100.

Dros yr un cyfnod, roedd 2,394 o deithiau bws, gyda chost o £1,318,890.

Mae’n golygu bod £1,321,339 wedi’i wario ar dacsis rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2026, tra bod £2,609,750 wedi’i dalu i gwmnïoedd bysiau dros yr un cyfnod.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn dweud eu bod yn symud ymlaen â chynlluniau i "gydlynu a rheoli ein Gwasanaethau Amnewid Rheilffordd yn fewnol ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau," er mwyn ceisio cyfyngu ar y gwariant.

"Nod y dull hwn yw rhoi mwy o reolaeth i ni dros gynllunio a chyflenwi, gan barhau i ddarparu gwasanaethau dibynadwy i gwsmeriaid pan fydd aflonyddwch yn digwydd."

'Parhau i wella'

Dywedodd llefarydd: "Yn gynharach eleni, Trafnidiaeth Cymru oedd y gweithredwr a wellodd fwyaf yn y DU o ran prydlondeb ar draws tri chyfnod adrodd olynol a'r un a wellodd fwyaf o ran canslo ar draws dau gyfnod olynol.

"Mae boddhad cwsmeriaid hefyd yn gwella. Yn arolwg diweddaraf Transport Focus a oedd yn cwmpasu Hydref 2025 i Fawrth 2026, dywedodd 90% o gwsmeriaid eu bod yn fodlon ar eu taith gyffredinol, gan osod Trafnidiaeth Cymru yn seithfed allan o 28 o weithredwyr trên.

"Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall oedi a chanslo fod yn rhwystredig i gwsmeriaid ac yn deall yr effaith y gall aflonyddwch ei chael ar fywydau beunyddiol pobl.

Image
Tren
Cafodd 31.7 miliwn o deithiau eu gwneud gyda Trafnidiaeth Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf, cynnydd o 20% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol

"Er bod mwy i'w wneud bob amser, rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddarparu'r rheilffordd ddibynadwy y mae ein cwsmeriaid yn ei disgwyl ac yn ei haeddu."

Dywedodd y cwmni hefyd bod mwy na £2 biliwn yn cael ei fuddsoddi mewn trenau newydd a gwelliannau seilwaith ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau.

"Rydym eisoes wedi cyflwyno trenau newydd ar lawer o lwybrau, gan ddarparu teithiau mwy dibynadwy, hygyrch a chyfforddus i gwsmeriaid. 

"Ochr yn ochr â hyn, rydym yn parhau i drawsnewid seilwaith ac yn gweithio'n agos gyda Network Rail ac Amey Infrastructure Wales, sy'n gyfrifol am gynnal ein rhwydwaith rheilffyrdd, i wella perfformiad a dibynadwyedd y rhwydwaith.

"Er bod angen gwaith peirianneg wedi'i gynllunio ymlaen llaw i gyflawni gwelliannau hirdymor a chynnal rheilffordd ddiogel, rydym bob amser yn anelu at leihau aflonyddwch a chadw cwsmeriaid yn symud trwy weithrediad gwasanaethau amnewid rheilffyrdd pan fo angen."

Iawndal

Daw’r ffigyrau yn dilyn stori gan Newyddion S4C ym mis Mai, a oedd yn dangos bod dros £7 miliwn wedi'i dalu mewn iawndal i gwsmeriaid am drenau hwyr dros y tair blynedd diwethaf, yn dilyn cais Rhyddid Gwybodaeth.

Cafodd £556,285 ei hawlio gan gwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru yn ystod mis Mawrth eleni – y swm uchaf ar gyfer unrhyw fis dros y cyfnod.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i wella cysylltedd i bobl ledled Cymru drwy ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth modern ac integredig, gyda gwasanaethau bysiau a rheilffordd o ansawdd uchel yn allweddol i gyflawni hyn.

“Roedd gan Linellau Craidd y Cymoedd y prydlondeb gorau o unrhyw rwydwaith rheilffordd ym Mhrydain yn ystod y cyfnod diweddaraf, gan ddangos yr hyn y gallwn ei gyflawni pan fyddwn yn rheoli'r seilwaith, y gwasanaethau a'r cyllid yn llwyr. 

"Os bydd aflonyddwch, mae Trafnidiaeth Cymru yn cymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau bod teithwyr yn gallu cwblhau eu teithiau, gan gynnwys darparu gwasanaethau amnewid rheilffordd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.