Trac beicio modur yng Ngwynedd i gau ddiwedd y mis ar ôl dros 30 mlynedd

Tonfanau

Ar ôl dros 30 mlynedd o rasio cystadleuol, bydd trac rasio beiciau modur ger Tywyn yng Ngwynedd yn cau ddiwedd y mis.

Bydd un cyfarfod olaf ar gylchdaith Tonfanau yn cael ei gynnal ddydd Sul, 30 Awst, meddai’r rheini sy’n gyfrifol am gynnal a chadw y trac.

Cafodd y ras gyntaf ei chynnal ar y trac milltir o hyd ar dir fferm ger yr arfordir yno yn 1993.

Bedair gwaith y flwyddyn, mae’n cael ei droi o gae fferm i gylchdaith rasio beiciau modur ar yr arfordir.

Dywedodd Tonfanau Road Racing eu bod nhw’n cau oherwydd yr “ymdrech enfawr” o barhau i gynnal y gylchdaith.

Roedden nhw wedi gwneud y “penderfyniad anodd” mai 2026 fydd blwyddyn olaf rasio yn Nhonfanau, medden nhw.

“Mae’n gofyn am waith caled ac ymroddiad gan ein tîm o wirfoddolwyr, sy’n mynd yn llai o hyd,” medden nhw.

“Mae’r gwaith yn parhau drwy gydol y flwyddyn, nid ar benwythnosau rasio yn unig.

“Mae ein gwirfoddolwyr yn treulio diwrnodau di-rif ar y gylchdaith mewn gwynt, glaw a rhew. 

“Maen nhw’n gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol, gan gynnwys gosod tarmac, rheoli chwyn, paentio ac atgyweirio’r difrod a achosir gan y defaid a’r tywydd.

“Mae ein gwirfoddolwyr yn heneiddio ac ni allant bellach roi faint o egni sydd ei angen i gynnal y gylchdaith. 

“Mae’r costau gweithredu hefyd yn cynyddu ac mae nifer y ceisiadau i gystadlu yn gostwng. Oherwydd hyn, nid yw parhau yn gynaliadwy mwyach.

“Bydd gan Donfanau le arbennig yng nghalonnau cymaint o bobl bob amser. Mae’r penderfyniad hwn wedi bod yn dorcalonnus i bawb sydd ynghlwm â’r rasio.

“Nid penderfyniad ysgafn oedd hwn. Hoffem ddiolch i bob unigolyn sydd wedi cefnogi’r rasio yn Nhonfanau dros y 34 mlynedd diwethaf.

“Ein cyfarfod ym mis Awst fydd y cyfarfod olaf ar y gylchdaith. Rydyn ni’n gobeithio gweld llawer ohonoch chi yno, boed yn bobl sydd wedi bod yn rhan o’r rasio yn y gorffennol neu’n rhan ohono heddiw.

“Dewch i’n helpu i ffarwelio â’r lle gwirioneddol arbennig hwn.”

 'Neb eisiau ysgwyddo’r cyfrifoldeb'

Dywedodd yr Ysgrifennydd Rasio a Digwyddiadau, Kathryn Westall, wrth Motorcycle News eu bod nhw wedi “cyrraedd pwynt lle mae oedran cyfartalog ein prif weithlu tua 65”.

Roedd wyneb y trac wedi dechrau chwalu wedi 34 o flynyddoedd ac angen ei ailwynebu, meddai.

Ei rhieni, Ray a Tracy Jones, yw Clerc y Cwrs a’r Ysgrifennydd Aelodaeth.

“Mae gennym ni ddigon o bobl sy’n fodlon helpu i baratoi’r trac a chlirio wedyn ar benwythnos rasio,” meddai.

“Ond nid oes neb sydd wir eisiau ysgwyddo’r cyfrifoldeb, cymryd yr awenau a dysgu sut mae popeth yn gweithio y tu allan i’r penwythnosau hynny.

“Mae Mam a Dad wedi bod yno bob yn ail benwythnos ers diwedd mis Ionawr. Maen nhw wedi bod yn torri’r gwair, lladd chwyn a gosod tarmac.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.