Tor calon i Gymru ar ôl colli yn erbyn Yr Alban yn y munudau olaf
Mae Cymru wedi colli yn erbyn yr Alban yng Nghaerdydd, a hynny ym munudau ola'r gêm, wedi perfformiad hyderus.
Roedd pedwar newid i'r tîm gollodd yn erbyn Ffrainc, gyda Gabriel Hamer-Webb yn ennill ei gap cyntaf ar yr asgell, Sam Costelow yn dechrau fel maswr, a'r clo Ben Carter a'r blaenasgellwr Taine Plumtree wedi eu cynnwys yn y tîm.
Dechreuodd Cymru yn llawn hyder yn Stadiwm Principality, gyda Rhys Carre yn sicrhau cais cynta'r gêm, yr eildro iddo groesi'r llinell mewn wythnos ar ôl ei gais yn erbyn Ffrainc yr wythnos diwethaf.
Llwyddodd cic Sam Costelow i'w gwneud hi'n 7-0.
Ond tarodd yr Alban yn ôl o fewn munudau gyda Kyle Steyn yn llwyddo i gyrraedd y cornel yn hawdd, ond methodd Finn Russell y trosiad gan ei gwneud hi'n 7-5 i Gymru.
Llwyddodd Cymru i ymestyn eu mantais i 14-5 wedi 18 munud, gyda Josh Adams yn sgorio ail gais Cymru, a throsiad llwyddiannus Sam Costelow.
Aeth Cymru am y triphwynt wedi 30 munud o chwarae, gyda chic Sam Costlow yn ei gwneud hi'n 17-5.
Roedd Stadiwm Principality wedi deffro, ar ôl tawelwch y dorf ar ddechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, wedi canlyniadau siomedig.
17-5 oeddi hi ar yr hanner gyda Rhys Carre yn annog y dorf i'w cefnogi wrth i'r ddau dîm gamu oddi ar y cae.
Gyda deuddeg pwynt o wahaniaeth rhwng y ddau dîm, dechreuodd Cymru yn gadarn.
O fewn y 10 munud cyntaf, llwyddodd Sam Costelow i ymestyn y bwlch, gyda'i bedwaredd gic lwyddiannus a'i gwneud hi'n 20-5.
Daeth dihangfa lwcus i'r crysau cochion gyda Huw Jones yn methu a chyrraedd y llinell, ond yna wedi 54 munud o chwarae daeth cais yr Alban gyda Finn Russell yn croesi'r llinell.
Daeth cic gosb i Gymru i agor y bwlch gyda Jarrod Evans yn llwyddo, ond o fewn eiliadau, sylwodd Finn Russell nad oedd Cymru yn canolbwyntio ac aeth y bêl yn hawdd i ddwylo Darcy Graham. Cais annisgwyl i'r Alban.
Wedi trosiad llwyddiannus, roedd yr Alban nôl yn y gêm ar 23-19.
Roedd yr Alban yn pwyso'n drwm yn y 10 munud olaf a'r stadiwm yn fyddarol.
A daeth cais yr ymwelwyr gyda chwe munud yn weddill - gyda George Turner yn croesi'r llinell.
23 -26 i'r Alban oedd y sgôr terfynol.
Tor calon i Gymru wedi perfformiad llawer gwell.
Roedd hi'n gêm hynod gyffrous a hynod agos, ond mae record siomedig Cymru yn parhau, sydd bellach yn 14 colled yn olynol yn y Chwe Gwlad.