Teyrngedau yn Norwich i'r Cymro Michael Wynn Jones, gŵr Delia Smith
Mae teyrnged wedi eu rhoi yn ninas Norwich i'r Cymro Michael Wynn Jones, gŵr y gogyddes Delia Smith, yn dilyn ei farwolaeth yn 85 oed.
Yn awdur, cyhoeddwr a llywydd anrhydeddus Clwb Pêl-droed Norwich City, cafodd ei eni yn ne Cymru yn 1941.
Aeth i Rydychen i'r coleg, cyn priodi Delia Smith yn 1971.
Fe sefydlodd gwmni cyhoeddi New Crane Publishing, oedd yn gyfrifol am gyhoeddi nifer o lyfrau ei wraig.
Cafodd y cwmni ei werthu yn 2005 am £7m.
Gyda'i wraig roedd Michael Wynn Jones yn gyfranddaliwr mawr yng nghlwb Norwich City am nifer o flynyddoedd, gan ysgwyddo llawer o heriau ariannol y clwb.
Roedd yn well ganddo eistedd ymysg y cefnogwyr yn hytrach nag ym mocs y cyfarwyddwr yn ystod y gemau cartref ar Carrow Road.
Mewn teyrnged iddo nos Lun, dywedodd y clwb: "Mae pawb yn Norwich City yn hynod drist o glywed am farwolaeth ein llywydd anrhydeddus oes, Michael Wynn Jones.
"Bu farw Michael yn dawel gartref fore Llun, yn 85 oed. Bydd colled fawr ar ei ôl.
"Mae ei deulu yn ddiolchgar am y gofal gwych a ddarparwyd gan y tîm nyrsio cymunedol yn Hosbis St Elizabeth yn Ipswich.
"Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf at Delia a Tom, ac at holl deulu, ffrindiau ac anwyliaid Michael. Ar gais y teulu, gofynnwn i chi barchu eu preifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn."
Dywedodd Clwb Cymdeithasol Cefnogwyr Norwich City: "Mae Michael yn chwedl i NCFC, ac nid oes modd tanamcangyfrif yr hyn a wnaeth i'r clwb."
Llun: PA