Teyrngedau i gyn-aelod o'r Senedd Caroline Jones sydd wedi marw'n 71 oed

Caroline Jones

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r cyn-aelod o Senedd Cymru Caroline Jones yn dilyn ei marwolaeth.

Roedd hi'n 71 oed ac wedi dioddef cyfnod byr o salwch.

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd ei gŵr, Alun Williams, ei bod hi’n “ddynes arbennig” oedd yn cael ei pharchu’n fawr yn y Senedd ac “yn gwneud popeth o fewn ei gallu dros bobl eraill”.

Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd Llyr Powell, AS Reform UK dros Flaenau Gwent Caerffili Rhymni ei fod wedi ei hadnabod am dros 15 o flynyddoedd a'i fod wedi ei ddychryn a'i dristau gan y newyddion am ei marwolaeth.
 
"Mae fy meddyliau a'm gweddïau gyda'i hanwyliaid yn yr amser anodd hwn.
 
"Cysga’n dawel, gorffwys mewn hedd", meddai.
 
Dywedodd Gareth Beer, AS Reform UK dros Sir Gaerfyrddin fod y newyddion am ei marwolaeth yn drist iawn.
 
"Roeddwn wedi adnabod Caroline ers nifer o flynyddoedd, menyw fach â chalon fawr, llawer o egni a dyfalbarhad diddiwedd, a'i chariad at wleidyddiaeth ac yn bwysicach fyth at bobl, wedi'i chadw i fynd heb os nac oni bai yn fy meddwl, hyd y diwedd.
 
"O ddyddiau cynnar Reform Cymru, pan oedden ni 1-2% yn yr arolygon barn, fe helpodd hi'n ddiwyd i drefnu ein cynhadledd Gymreig gyntaf ym Mhort Talbot, fe'n cafodd ni i'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, gyrrais i a sgwrsiodd hi'r holl ffordd.
 
"Cydymdeimlad diffuant i Alun a'r teulu."
 
Ddydd Mercher fe gyhoeddodd gŵr Ms Jones ei bod yn ddifrifol wael ac yn derbyn gofal lliniarol.
 

Yn ôl Alun Williams, roedd cyflwr Ms Jones wedi datblygu’n “sydyn iawn”, ac roedd y teulu’n ceisio dod i delerau â’r sefyllfa ar y pryd.

Roedd Ms Jones yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol yn etholiad y Senedd 2026 yr wythnos ddiwethaf.

Bu’n Aelod o’r Senedd dros ranbarth Gorllewin De Cymru rhwng Mai 2016 ac Ebrill 2021.

Cafodd ei hethol i’r Cynulliad yn 2016 fel aelod o UKIP, cyn mynd ymlaen i eistedd fel aelod annibynnol.

Yn ddiweddarach, fe ymunodd â grŵp y Brexit Party/Reform UK cyn arwain grŵp Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio - Independent Alliance for Reform - yn y Senedd.

Fe adawodd Ms Jones Reform UK ym mis Ebrill 2026 wedi mynegi “pryderon difrifol” am y ffordd roedd y blaid wedi dewis eu hymgeiswyr, gan gynnwys ymgeiswyr roedd hi’n dweud oedd wedi cael eu “parasiwtio” i mewn o ardaloedd tu allan i Gymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.