Teyrnged i'r bardd a’r crefftwr Hedd Bleddyn sydd wedi marw yn 87 oed

Teyrnged i'r bardd a’r crefftwr Hedd Bleddyn sydd wedi marw yn 87 oed

Mae’r bardd, y dyn busnes a’r cyn-gynghorydd sir, Hedd Bleddyn wedi marw’n sydyn yn 87 oed.

Fe fydd Hedd Bleddyn yn cael ei gofio yn bennaf fel bardd oedd yn barod iawn ei hiwmor ffraeth, yn ogystal â’i waith o ddydd i ddydd cyn ymddeol fel saer maen oedd yn arbenigo mewn creu cerrig beddi.

Yn wreiddiol o Lanbrynmair, ond bellach wedi creu ei gartref ym Mhenegoes ger Machynlleth, roedd yn ffigwr amlwg ym mywyd diwylliannol a chyhoeddus Sir Drefaldwyn am ddegawdau, gan wasanaethu fel cynghorydd sir annibynnol dros ardal Llanbrynmair ar Gyngor Sir Powys am gyfnod.

Mewn adolygiad i un o gyfrolau Hedd Bleddyn, fe gafodd ei ddisgrifio fel un o’r “cymeriad unigryw a lwyddodd i gyfuno dwy grefft oedd yn ymddangos yn wahanol iawn, sef ei farddoniaeth a’i waith carreg gain".

Dywedodd Aled Griffiths, cyfaill i Hedd Bleddyn a chadeirydd Eisteddfod Genedlaethol 2027, ei fod yn “yn fardd, yn gymeriad lleol hoffus iawn, ac yn ddyn busnes”.

“Ond yn fwy na hynny, oedd o’n  ddyn poblogaidd a dwi’n credu dyna sut ‘dan  ni yn ei gofio fo.

“Oedd Hedd yn un o’r bobl ‘ma oedd yn gallu troi ei law at unrhyw beth a dyna sut ‘dan ni yn ei gofio fo.

“Wrth gwrs, beth sydd yn  taro rywun ydi bod Hedd yn ddyn ‘Steddfod mawr.

“Fydd y Babell Len byth yr un peth heb Hedd Bleddyn, ma’ hynny’n sicr, ac beth sy’n glên ydi bod o wedi gallu dod yma i fwrlwm yr Eisteddfod ond bod o wedi ein gadael ni yn ystod y ‘Steddfod hefyd.

“‘Dan ni gyd yn meddwl am y teuluoedd yr wythnos yma.”

Image
Hedd bleddyn

Y Babell Lên

Daeth ei waith barddonol yn gyfarwydd i gynulleidfaoedd ledled Cymru, yn enwedig drwy ei gyfraniadau i raglenni fel Y Talwrn ar BBC Radio Cymru, a’i ymddangosiadau ar lwyfan y Babell Lên yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Roedd ei limrigau, ei benillion a’i straeon wastad yn ennyn gwên ac yn adlewyrchu ei allu i ddal naws pobl a chymunedau gwledig Cymru gyda chynhesrwydd a thipyn o ddrygioni iach, gyda’i berthynas agos â Meuryn Ymryson y Beirdd yn y Babell Lên, Tudur Dylan Jones yn destament i'w gymeriad a’i hiwmor unigryw.

Roedd yr eisteddfota yn rhan ganolog o’i fywyd, nid yn unig yr Eisteddfod Genedlaethol ond hefyd nifer fawr o eisteddfodau lleol Cymru, gan ennill casgliad sylweddol o gadeiriau mewn gwahanol eisteddfodau ar hyd a lled y wlad.

Bu’n Dderwydd Gweinyddol Eisteddfod Powys, a cafodd ei urddo i Orsedd y Beirdd yn 2011.

Cyhoeddwyd casgliad o’i waith, Hiwmor Hedd, gan Wasg Carreg Gwalch yn 2006, gan sicrhau bod ei leisiau a’i straeon yn cyrraedd cynulleidfa ar draws y wlad, ac yn ddiweddarach yn 2013 fe gyhoeddwyd ei hunangofiant ‘Dwyn i Gof a Dyna i Gyd’, cyfrol o atgofion am ei fagwraeth, ei deulu a’i fywyd ym myd busnes a llywodraeth leol.

Er bod llawer yn ei adnabod am ei hiwmor, roedd hefyd yn grefftwr medrus a oedd yn ymfalchïo yn ei waith gyda charreg. Roedd y gofal a’r manylder a welid yn ei waith fel saer maen yn adlewyrchu’r un safon a’r un parch at iaith a geid yn ei farddoniaeth.

Image
Hedd bleddyn
Gweithdy busnes y teulu ger yr A470 yn Llanbrynmair

Bu’n rhedeg cwmni I.B. Williams a’i Fab, busnes cerrig beddi’r teulu yn Llanbrynmair a gafodd ei sefydlu yn 1918, cyn i’w dad brynu’r busnes yn 1938, ac yna’n trosglwyddo’r busnes iddo yn 1960.

Yn 2004, daeth yn gwmni cyfyngedig a chafodd ei drosglwyddo i’w fab, Rhys Bleddyn.

Roedd yn ŵr i’r diweddar Marian, ac yn dad i Rhys a Nia, yn ogystal â bod yn daid hoff i’w wyrion.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.