Teulu tad o Wynedd a fu farw o ganser yn croesawu triniaeth newydd

huw jones.jpg

Mae teulu dyn o Lanuwchllyn yng Ngwynedd a fu farw o fath ymosodol o ganser wedi croesawu'r newyddion fod triniaeth newydd wedi cael ei chaniatáu a all ymestyn bywyd cleifion. 

Bu farw Huw Jones, oedd yn 33 oed, ym mis Chwefror eleni. 

Roedd wedi bod yn ymgyrchu i sicrhau fod y cyffur zanidatamab ar gael i bob claf sydd gyda cholangiocarsinoma, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel canser dwythell y bustl (bile duct). 

Yn wreiddiol, fe wnaeth Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (Nice) wrthod y driniaeth ar gyfer ei ddefnyddio'n eang ar y Gwasanaeth Iechyd yn eu canllawiau drafft. 

Ond mae teulu Mr Jones wedi croesawu'r newyddion fod zanidatamab bellach wedi cael ei argymell ar gyfer cleifion â cholangiocarsinoma. 

Mae pobl sydd â'r math yma o ganser yn aml yn derbyn diagnosis yn hwyr, pan nad oes modd cael gwared ohono drwy lawdriniaeth. 

Mae treialon clinigol yn awgrymu y gallai triniaeth bron i dreblu disgwyliad oes cleifion o gymharu â'r driniaeth bresennol. 

Image
huw jones
Huw Jones gyda'i dad, Gareth, a gweithiwr cymorth Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Coleg Prifysgol Llundain

Fe gafodd Mr Jones ddiagnosis cam 4 o cholangiocarsinoma yn 2024 ar ôl profi poen yn ei gorff wrth ymarfer ar gyfer triathlon.

Fe ddechreuodd gymryd zanidatamab fel rhan o dreial clinigol ym mis Ionawr 2025, sef yr un mis â genedigaeth ei fab, Idris.

Mae ei deulu o'r farn na fyddent wedi gallu treulio blwyddyn gyda'i gilydd fel teulu o dri heb zanidatamab.

Yn dilyn ei farwolaeth, fe wnaeth ei deulu gefnogi ymgyrch i sicrhau fod y cyffur yn cael ei gymeradwyo ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd. 

Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal bellach wedi cymeradwyo'r driniaeth ar gyfer cleifion yn y canllawiau drafft terfynol.  

Wrth ymateb, dywedodd tad Mr Jones, Gareth: "Er ein bod ni gyd yn dymuno fod Huw gyda ni o hyd, rydym ni'n ddiolchgar am y ffordd y gwnaeth zanidatamab roi amser gwerthfawr gyda'i fab newydd, Idris, a gweddill ein teulu. 

"Fe wnaeth hefyd roi gobaith mawr iddo yn ystod ei driniaeth ar gyfer cholangiocarcinoma. 

"Yn rhy aml, mae cleifion â'r canser yma yn cael eu cyflwyno gydag opsiynau prin, os o gwbl, felly mae gwybod fod modd cael mynediad at y driniaeth yma bellach yn newyddion gwych i bobl â cholangiocarcinoma HER2-positif yng Nghymru a Lloegr."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.