Tanau gwyllt: Galw ar drigolion Llanbedr ger Harlech i gadw ffenestri ar gau
Mae’r gwasanaeth tân yn galw ar drigolion Llanbedr ger Harlech i gadw eu ffenestri ar gau wedi tân gwyllt ar fynyddoedd Rhinogydd.
Maen nhw’n gofyn i bobl gadw draw o'r ardal ac i drigolion lleol gadw ffenestri a drysau ar gau.
Mae’r Rhinogydd yn gadwyn fynyddoedd yn ardal Ardudwy, de Gwynedd.
Roedd tân ar y mynyddoedd ddydd Sul yn ogystal.
Mae lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos bod mwg wedi lledu yn eang yn yr ardal.
