Tân gwair ger Paddington yn achosi problemau mawr i deithwyr
Mae tân gwair yn ymyl y rheilffordd yn ardal Gorsaf Paddington yn Llundain yn achosi trafferthion mawr i deithwyr nos Sadwrn.
Mae gwasanaethau trên i faes awyr Heathrow wedi eu canslo.
Mae'r tân wedi amharu ar y cyflenwad trydan.
Yn ôl Brigad Dân Llundain, mae chwe injan dân a thua 40 o griw yn ceisio diffodd y fflamau mewn lleoliad yng ngogledd Kensington, ar ôl iddyn nhw dderbyn galwad toc ar ôl 16:00.
Mae criwiau o Hammersmith, Paddington, Ealing a lleoliadau eraill wedi eu hanfon yno.
Mae mwg trwchus i'w weld yn codi o ardal Paddington.
Mae gwasanaethau cwmni trên Great Western Railway (GWR) i Reading wedi eu canslo.
Y cyngor i deithwyr ydy i neilltuo rhagor o amser ar gyfer unrhyw daith.
Mae'r tân hefyd yn effeithio ar drenau tanddaearol Llundain.