‘Swreal’: Dyn o Wynedd wedi cwblhau 100 marathon ultra mewn 100 diwrnod
‘Swreal’: Dyn o Wynedd wedi cwblhau 100 marathon ultra mewn 100 diwrnod
Mae dyn o Wynedd wedi cwblhau her elusennol i redeg 100 marathon ultra mewn 100 diwrnod yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn.
Ar 29 Mai, fe gychwynnodd David Jackson, o Rosgadfan, her i gwblhau marathon ultra – sef rhedeg o leiaf 50 cilomedr - pob dydd am 100 diwrnod.
Ers iddo gychwyn yr her yng Nghaernarfon, mae’r cyn chwaraewr rygbi proffesiynol 44 oed wedi mynd ar daith ar draws y DU cyfan gan gwblhau marathonau ultra mewn 18 o leoliadau gwahanol.
Ar ôl iddo eisoes redeg dros 5,000 cilomedr – sydd dros deirgwaith yn hirach na llwybr arfordirol Cymru – fe fydd y cyn-chwaraewr rygbi proffesiynol yn dychwelyd i’r dref unwaith yn rhagor er mwyn cwblhau’r canfed.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2060281771829219586?s=20
“Mae’n deimlad swreal i fod yn ôl ag i gyffwrdd waliau’r castell,” meddai David Jackson.
“Rydan ni’n dal ymlaen ychydig erbyn hyn ond mae’r ysbryd yn uchel yn enwedig pan ‘da ni’n gweld pobl leol a ffrindiau yn dod allan i’n cefnogi. Felly mae gennym un ymdrech arall ar gyfer yr elusennau anaf ymennydd.”
Record byd
Ar ôl croesi’r trothwy o 80 marathon ultra yn olynol, fe dorrodd David Record y Byd Guinness fis diwethaf am y nifer uchaf o farathonau ultra yn olynol gan ddyn.
Mae ei ymdrechion ef a’i wraig Catherine, sydd wedi ei gefnogi, bwydo a gyrru’r fan sydd wedi bod yn ganolbwynt i’r cyfan, wedi codi dros £37,000 i elusennau Headway a Head for Change.
Penderfynodd David wneud yr her er mwyn cefnogi’r elusennau ar ôl iddo ddioddef anaf i’w ymennydd a ddaeth a’i yrfa rygbi lwyddiannus i ben yn 2013, ar ôl 13 mlynedd yn chwarae dros ei glwb cartref, Nottingham.
“Dywedais ar ddiwrnod 81 ar ôl torri’r Record y Byd Guinness, tydi hyn ddim am y rhedeg. Mae wastad wedi bod am yr elusennau. Mae’r record yn gerbyd da sydd yn helpu dod a sylw i beth ti’n ei wneud.
“Un o’r prif resymau am wneud hyn yw pan gefais anaf i’m hymennydd yn 2013, roedd Catherine a finnau newydd briodi.
"Mewn 48% o gyplau lle mae un yn dioddef anaf ymennydd, maen nhw’n gwahanu oherwydd mae’n newid yr unigolyn, mae’n newid y berthynas, mae’n anodd.
“Doedden ni ddim yn gwybod am yr elusennau ar y pryd, chawsom ni ddim cefnogaeth pan oedden ni ei angen fwyaf.
"Dy’n ni ddim eisiau i neb arall fynd drwy hynny. Mae hyn am godi ymwybyddiaeth.
"Unwaith mae rhywun yn mynd adref o’r ysbyty ar ôl anaf, mae yna lot fawr o waith i wneud ac mae pobl angen gymaint o gefnogaeth â sy’n bosib, a 'dan ni eisiau i bobl wybod am yr elusennau yma.”
'Mae gan bawb ei stori'
Nod yr her yn wreiddiol i David oedd i gwblhau dau farathon y dydd am 100 diwrnod. Ond ar ôl anaf i’w goes wedi pythefnos, newidiodd y gôl i redeg 50 cilomedr y dydd yn hytrach.
“Ar ddydd 14, cefais i anaf cas naeth newid pethau. Nes i gerdded am 12 awr a hanner y diwrnod hwnnw, yn gloff ac mewn poen. Dwi ddim yn siŵr sut lwyddon ni i ddod drwy’r diwrnod hwnnw, heb sôn am y dyddiau wedyn.
“Tasa fo wedi bod yn rhaglen deledu a bod yna botwm mawr coch efo Ant a Dec yno i gael mi allan, byswn i wedi ei bwyso – ond toedd na ddim.
"Daeth Catherine o hyd i mi rhywle yn y Lake District a rywsut cael fi i ail-ddechrau. Gweithion ni drwy hynny a chanfod normal newydd i ni.”
Mae dros 800 o bobl wedi ymuno â David wrth redeg cymalau o’i her hyd yma, ac mae’n annog y cyhoedd i ymuno yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn ar gyfer y cymal olaf.
Fe fydd yn rhedeg llwybr o orsaf drenau Caernarfon heibio’r castell a Doc Fictoria i gylchfan Plas Menai ac yn ôl bum gwaith rhwng 07.00 a 16.00, ac mae croeso cynnes i bawb sydd yn dymuno cymryd rhan.
“Mae gymaint o bobl wedi rhedeg hefo fi, ac mae pobl wedi bod yn rhannu lot fawr o bethau dwfn, pethau maen nhw wedi brwydro hefo neu wedi eu trechu. Mae gan bawb ei stori ac mae rhedeg yn cynnig sefydlogrwydd i rai pobl.
“Dwi’n gobeithio bydd 'na bobl yma oedd yma ar y cychwyn ym mis Mai. Dwi’n edrych ymlaen i weld y wynebau cyfeillgar sydd wedi bod gyda ni o’r dechrau i’r diwedd,” meddai.