Sir Gâr: Gwasanaethau brys yn gadael safle yn dilyn damwain bws

Sir Gâr: Gwasanaethau brys yn gadael safle yn dilyn damwain bws

Mae’r 'digwyddiad o bwys' a gafodd ei ddatgan yn dilyn gwrthdrawiad bws ger Cydweli, Sir Gâr, bellach wedi dod i ben.

Cafodd swyddogion Heddlu Dyfed-Powys eu galw i ffordd yr A484, ger cylchfan Cydweli, Parc y Bocs, am 12.20 ddydd Mawrth.

Ymatebodd Heddlu Dyfed-Powys, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i’r digwyddiad.

Cafodd 13 o bobl eu hasesu a’u rhyddhau yn y fan a’r lle, tra cafodd chwech arall eu cludo i’r ysbyty am driniaeth bellach.

Nid oedd unrhyw un o’r anafiadau yn cael eu hystyried yn rhai oedd yn peryglu bywyd, yn ôl y gwasanaethau brys.

Yn ôl adroddiadau, fe wnaeth ambiwlans awyr lanio yn y lleoliad toc cyn 12.00, tra bod y gwasanaeth tân ac achub hefyd yn bresennol.

Cafodd trefniadau llesiant eu darparu yng Nghanolfan John Burns yng Nghydweli, ond mae pawb a aeth yno i gael cysur a diogelwch bellach wedi gadael.

Bydd y ffordd yn parhau ar gau tra bod ymchwilwyr gwrthdrawiadau yn cynnal eu hymholiadau.

Mae’r heddlu wedi diolch i’r cyhoedd am eu dealltwriaeth a’u hamynedd, ac i Ganolfan John Burns am ei chefnogaeth.

Wrth ymateb i'r ddamwain, dywedodd Aelod Seneddol yr ardal, Nia Griffith AS: "Mae fy meddyliau i gyda'r bobl oedd ynghlwm â'r ddamwain a'r gwasanaethau achub sydd yn eu cynorthwyo."

Mae'r llu wedi rhannu cyngor ar sut i gadw'n ddiogel yn y gwres gyda theithwyr sydd yn sownd mewn traffig o ganlyniad i'r ddamwain.

Maent yn cynghori teithwyr i ddefnyddio systemau aerdymheru ble'n bosib, neu agor ffenestri er mwyn annog llif yr aer.

Mae cyngor hefyd i yfed dŵr yn rheolaidd, gofalu’n arbennig am blant a phobl fregus, a pheidio â gadael anifeiliaid anwes ar eu pen eu hunain mewn cerbyd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.