Sir Gâr: Dirwy am weithredu fel gyrrwr tacsi didrwydded ar lwybrau cludiant ysgol

Llys Ynadon Llanelli

Mae dyn wedi derbyn dirwy am weithredu fel gyrrwr tacsi didrwydded ar lwybrau cludiant ysgol yn Sir Gaerfyrddin.

Cafwyd David Rhydian Thomas, o Windy Corner Coaches, yn euog o gludo plant ysgol bum gwaith rhwng 1 Hydref ac 8 Hydref 2025. 

Cafodd ei erlyn gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Clywodd Llys Ynadon Llanelli ar 17 Ebrill bod Mr Thomas wedi gyrru cerbyd hurio preifat trwyddedig heb feddu ar y Drwydded Yrru Ddeuol angenrheidiol ar gyfer Cerbyd Hacni/Hurio Preifat.

Clywodd y llys fod Mr Thomas wedi cael rhybudd ffurfiol o'r blaen ar 15 Hydref 2024 am yrru cerbyd trwyddedig heb feddu ar drwydded. 

Plediodd Mr Thomas yn euog drwy'r post. Cafodd ddirwy o £666 a gorchymyn i dalu tâl dioddefwr o £266 a chostau o £1,762.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin â chyfrifoldeb dros orfodaeth, mai diogelwch plant a'r cyhoedd ehangach oedd eu “prif flaenoriaeth”. 

“Mae'n rhaid i yrwyr trwyddedig fodloni safonau llym sydd wedi'u cynllunio i ddiogelu teithwyr, yn enwedig wrth gludo plant ysgol,” meddai.

“Mae'r achos hwn yn rhoi neges glir ein bod ni'n cymryd achosion o dorri rheoliadau trwyddedu o ddifrif ac na fyddwn ni'n oedi cyn cymryd camau gorfodi lle bo angen.”

Mae Tîm Trwyddedu Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i weithio i sicrhau bod yr holl yrwyr, cerbydau a gweithredwyr yn cydymffurfio'n llawn â gofynion cyfreithiol, gan helpu i ddiogelu teithwyr ledled y sir, medden nhw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.