Sir y Fflint: Cyhuddo dyn lleol o geisio llofruddio dynes

Bretton

Mae dyn 59 oed wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio ar ôl i ddynes gael ei hanafu’n ddifrifol yn Sir y Fflint.

Fe aeth y gwasanaethau brys i gyfeiriad yn Bretton tua 19.45 nos Lun, yn dilyn adroddiadau bod dynes wedi dioddef anafiadau trywanu.

Cafodd ei chludo i’r ysbyty ac mae’n parhau i fod yno meddai Heddlu’r Gogledd.

Cafodd Andrew Smith, o Ffordd Bretton ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Fe wnaeth ymddangos yn Llys Ynadon Wrecsam ddydd Mercher wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio, bygwth person gyda chyllell mewn man cyhoeddus, meddu ar gyllell mewn man cyhoeddus ac ymosod drwy guro.

Mae wedi cael ei gadw yn y ddalfa i ymddangos yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar 7 Awst.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Daniel George: “Mae troseddau o’r natur yma yn hynod brin yng ngogledd Cymru, a hoffwn sicrhau trigolion mai digwyddiad unigol oedd hwn.

“Dydyn ni ddim yn ceisio siarad ag unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad ar hyn o bryd.

“Mae hwn yn ymchwiliad gweithredol, felly mae’n bwysig nad yw pobl yn dyfalu am y digwyddiad ar-lein.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.