'Siomedig': Digwyddiadau ffasiwn i ddod i Gymru ar ôl beirniadaeth gan Cambrensis
'Siomedig': Digwyddiadau ffasiwn i ddod i Gymru ar ôl beirniadaeth gan Cambrensis
Bydd tŷ ffasiwn Cambrensis yn cynnal digwyddiad yng Nghaerdydd fel rhan o ymgyrch Fashion Britain, ar ôl beirniadu’r penderfyniad i beidio â chynnwys Cymru yn y cynlluniau gwreiddiol.
Roedd Cyngor Ffasiwn Prydain wedi cyhoeddi cyfres o ddigwyddiadau mewn dinasoedd ar draws y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Manceinion, Lerpwl, Caeredin, Dundee, Newcastle, Llundain a Bryste.
Ond er mai bwriad yr ymgyrch yw “datganoli ffasiwn Prydeinig”, doedd dim digwyddiad yng Nghymru ar y rhestr wreiddiol.
Mewn fideo ar y cyfryngau cymdeithasol, roedd sylfaenydd Cambrensis, Ioan Bowen-Pickett, wedi mynegi ei siom am hynny.
Ar ôl i’r fideo ddenu sylw, roedd y cyngor wedi cysylltu ag ef i ofyn a fyddai Cambrensis yn arwain digwyddiad yng Nghymru.
Bydd y tŷ ffasiwn yn dangos ei ffilm ffasiwn gyntaf, Our Story, yn The Canopi yng Nghaerdydd ar 25 Medi.
Mae dau ddigwyddiad arall hefyd wedi’u cyhoeddi yng Nghymru fel rhan o’r ymgyrch.
‘Siomedig iawn’
Tŷ ffasiwn Cymreig annibynnol yw Cambrensis, a gafodd ei sefydlu gan Ioan Bowen-Pickett yn 2022. Mae wedi’i leoli yng Nghaerdydd, ac mae ei enw’n golygu “o Gymru” yn Lladin.
Yn ei fideo gwreiddiol, dywedodd Ioan: “Mae’n wirioneddol siomedig gweld Cymru’n cael ei gadael allan o Fashion Britain, yn enwedig pan fo gan Gymru hanes ffasiwn mor gyfoethog.”
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: “Pan oedd y British Fashion Council ddim wedi cynrychioli Cymru yn Fashion Britain, roeddwn i’n siomedig iawn.
“Mae Cymru gyda llawer o ddylunwyr enwog iawn fel Julien Macdonald o Ferthyr Tudful lle mae fy mam yn dod o.”
Mae gan Gymru gysylltiadau â nifer o enwau adnabyddus yn y byd ffasiwn, gan gynnwys Laura Ashley, David Emanuel a Julien Macdonald.
Mae gan y wlad hefyd hanes hir o gynhyrchu gwlân a thecstilau.
Cynrychioli Cymru
Yn ôl gwefan Cambrensis, mae’r brand wedi’i wreiddio yn niwylliant, treftadaeth a chymunedau de Cymru. Ei nod yw mynegi hunaniaeth Gymreig drwy ddylunio cyfoes.
Dywedodd Ioan fod ei fideo wedi sbarduno trafodaethau am bwysigrwydd cynnwys Cymru mewn digwyddiadau fel Fashion Britain. Ychwanegodd nad dyma’r tro cyntaf i Gymru gael ei gadael allan.
Ar ôl y feirniadaeth, roedd Cyngor Ffasiwn Prydain wedi cyhoeddi neges ar Instagram yn dweud: “Wales! We haven’t forgotten about you.”
Mae Cambrensis bellach yn paratoi ar gyfer ei ddigwyddiad ei hun fel rhan o’r ymgyrch.
Dywedodd Ioan wrth Newyddion S4C: “Dwi’n gyffrous i ddweud rydyn ni yn mynd i greu digwyddiad Fashion Britain Cymru.
“Rydyn ni ar ddechrau’r twf ym mhoblogrwydd y diwylliant yng Nghymru.”
Mae gan y brand bartneriaeth newydd â Clarks hefyd, ac mae Ioan yn edrych ymlaen at barhau i gynrychioli Cymru yn y byd ffasiwn.
‘Gwrando'
Sefydliad dielw a gafodd ei sefydlu yn 1983 yw Cyngor Ffasiwn Prydain. Mae’n hyrwyddo ac yn cefnogi diwydiant ffasiwn y DU.
Mewn ymateb, dywedodd ei brif weithredwr, Laura Weir: “Fe wnaethoch chi ofyn, ac fe wnaethom ni wrando.
“Gwelsom y sylwadau a chlywed galwadau cymuned ffasiwn Cymru i Fashion Britain ddod i Gymru, ac ni allem eu hanwybyddu.
“Felly, fe wnaethom ni benderfynu dod â Fashion Britain i Gaerdydd ym mis Medi eleni.
“Mae dyfodol ffasiwn yn datblygu ym mhobman, ac mae’n bwysig i ni ddathlu creadigrwydd, talent ac egni cymunedau ffasiwn ledled y DU.”
Dyma’r tri digwyddiad sydd wedi’u cyhoeddi yng Nghymru:
- Cambrensis yn cyflwyno: Our Story, Ffilm Ffasiwn Newydd: Dydd Gwener 25 Medi, am 7yh yn The Canopi, Caerdydd.
- Panel Dylunwyr BFC x ELLE UK: Dydd Mercher 30 Medi, rhwng 3yp a 5yp yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Bydd Naomi Pike, golygydd comisiynu ELLE UK, yn cadeirio sgwrs â Julien Macdonald, Jayne Pierson ac Ibby Abdi.
- Cyfarfod â’r Gwneuthurwyr: Digwyddiad gyda Jayne Pierson, Toast a HUIT Denim. Mae’r dyddiad a’r lleoliad i’w cadarnhau.