Sgôr mathemateg disgyblion Cymru ar ei isaf erioed ym mhrofion PISA
Mae disgyblion Cymru wedi cofnodi’r sgôr isaf erioed mewn mathemateg ym mhrofion addysg rhyngwladol PISA.
Cafodd sgôr gyfartalog o 456 ei chofnodi yn 2025, deg pwynt yn is na’r sgôr o 466 yn 2022.
Dyma’r sgôr isaf i Gymru ei chofnodi mewn mathemateg yn y gyfres o ganlyniadau cymaradwy sy’n mynd yn ôl i 2006.
Roedd y canlyniad yn sylweddol is na’r sgoriau a gofnodwyd yn 2022, 2018 a 2015, ac yn is na chyfartaledd yr OECD o 463.
Roedd 24 o’r systemau addysg a gymerodd ran wedi sgorio’n sylweddol uwch na Chymru mewn mathemateg, tra bod 51 wedi sgorio’n sylweddol is.
Defnyddir y term ‘sylweddol’ drwy gydol yr adroddiad canlyniadau PISA Cymru i gyfeirio at wahaniaethau sy'n arwyddocaol yn ystadegol rhwng sgorau neu werthoedd.
Dywedodd y Gweinidog Addysg Anna Brychan eu bod nhw wedi "etifeddu system addysg sydd heb eglurder, cydlyniad na chyfeiriad pendant, ac rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r materion hynny".
Ychwanegodd wrth siarad â Radio Cymru bod yr holl newidiadau diweddar i’r system addysg yn golygu ei fod yn bosib bod “ffocws benodol ar rifedd a llythrennedd wedi mynd ar goll”.
“Mae lot o newidiadau wedi digwydd - mae Covid hefyd wedi cael effaith,” meddai.
“Ond dw i'n credu bod e yn bwysig hefyd cofio beth y'n ni'n gwybod sydd gyda ni: mae gyda ni ddysgwyr sy'n llawn digon abl i fod cystal ag unrhyw un arall yn y byd ac mae gennym ni weithlu parod, dygn a gwybodus sydd yn gallu delio gyda'r her hwn.”
Dywedodd y byddai yn cyhoeddi cynllun newydd yr wythnos nesaf er mwyn sicrhau bod rhagor o eglurder o ran y disgwyliadau penodol o ran rhifedd a llythrennedd.
“Mi fydd y grŵp nesaf o ddisgyblion sy'n gwneud y profion pisa yn ddisgyblion fydd yn 15eg yn 2029, a chanlyniadau yn 2030,” meddai.
“I fi fel gweinidog yn y tymor llywodraeth hwn, fi wir moyn ffocysu ar y cynllun rhifedd a llythrennedd sydd gyda ni achos mae hwnna yn mynd i gael ei strwythuro er mwyn i ni gael dangos y cynnydd hwnnw yn ystod y tymor hwn.”
Darllen a gwyddoniaeth
Gostyngodd sgôr darllen Cymru o 466 yn 2022 i 459 yn 2025.
Er bod y sgôr yn is, nid oedd y gwahaniaeth yn cael ei ystyried yn ystadegol arwyddocaol.
Nid oedd sgôr Cymru chwaith yn sylweddol wahanol i gyfartaledd yr OECD o 461.
Roedd sgoriau darllen 58 o wledydd yn sylweddol is na Chymru, tra bod 20 wedi sgorio’n sylweddol uwch. Nid oedd sgoriau’r 11 arall yn sylweddol wahanol i sgôr Cymru.
Cafwyd cynnydd bach mewn gwyddoniaeth, gyda sgôr Cymru yn codi o 473 yn 2022 i 476 yn 2025.
Nid oedd y cynnydd o dri phwynt yn ystadegol arwyddocaol, ac roedd sgôr Cymru yn dal yn sylweddol is na chyfartaledd yr OECD o 482.
Roedd 25 o’r systemau addysg wedi sgorio’n sylweddol uwch na Chymru mewn gwyddoniaeth, a 54 wedi sgorio’n is.
Roedd sgoriau Cymru yn is na rhai Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ym mhob un o’r tri maes.
Beth yw PISA?
PISA yw’r arolwg rhyngwladol mwyaf o ddisgyblion 15 oed ac mae’n cael ei gynnal gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, yr OECD.
Mae’n asesu gallu pobl ifanc i ddefnyddio eu gwybodaeth a’u sgiliau mewn mathemateg, darllen a gwyddoniaeth i ymateb i sefyllfaoedd bywyd go iawn.
Fe wnaeth mwy na 760,000 o bobl ifanc mewn 91 o systemau addysg ledled y byd gymryd rhan yn 2025.
Yng Nghymru, fe wnaeth 3,406 o ddysgwyr o 113 o ysgolion gwblhau asesiad cyfrifiadurol dwy awr a holiadur.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod angen bod yn ofalus wrth gymharu’r canlyniadau oherwydd ei bod yn bosibl nad oedd y samplau yn gwbl gynrychioliadol o boblogaethau’r gwledydd a gymerodd ran.