Sgandal Mandelson: Starmer i wynebu pleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin
Bydd Syr Keir Starmer yn wynebu pleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mawrth a allai arwain at ymchwiliad i honiadau iddo gamarwain Aelodau Seneddol mewn cysylltiad â sgandal Peter Mandelson.
Aelodau Seneddol fydd yn penderfynu a ddylai'r Pwyllgor Breintiau gynnal ymchwiliad.
Mae Prif Weinidog y DU wedi gwadu iddo gamarwain Aelodau Seneddol pan nododd fod y broses wirio gywir wedi ei dilyn cyn penodi'r Arglwydd Mandelson yn Llysgennad ar gyfer yr Unol Daleithiau, ac nad oedd swyddogion o'r Swyddfa Dramor o dan "bwysau o gwbl" yn ystod y broses honno.
Fis Medi, cafodd yr Arglwydd Peter Mandelson ei ddiswyddo fel llysgennad Prydain i’r Unol Daleithiau wedi beirniadaeth chwyrn am ei gyfeillgarwch â’r troseddwr rhyw Jeffrey Epstein.
Ddechrau Ebrill, daeth hi i'r amlwg fod Syr Keir Starmer "yn gandryll" am na chafodd wybod bod Peter Mandelson wedi methu archwiliad gwirio diogelwch cyn cael ei benodi'n Llysgennad y DU i'r Unol Daleithiau.
Yn fuan wedi hynny, collodd Syr Olly Robbins, prif was sifil y Swyddfa Dramor ei swydd.
Mae Arweinydd y Ceidwadwyr, Kemi Badenoch wedi dweud sawl tro fod Syr Keir Starmer wedi camarwain "droeon" ar y mater hwn.
Yn ôl Rhif 10 Downing Street, mae'r cais yn "gêm wleidyddol" gan y Blaid Geidwadol, sydd wedi gofyn am y bleidlais.
Yn ôl Llefarydd Tŷ'r Cyffredin, Syr Lindsay Hoyle, mae nifer o aelodau o sawl plaid wedi ysgrifennu ato yn gofyn iddo weithredu.
"Mae un o'r llythyron hynny gan Arweinydd yr Wrthblaid," meddai.
"Mae'r mater yn ymwneud ag atebion y Prif Weinidog i'r Tŷ, ynglŷn â'r broses wrth benodi'r Arglwydd Mandelson, a materion perthnasol eraill
"Rydw i'n credu y byddai'n ddefnyddiol, pe bawn i yn egluro fy rôl wrth benderfynu a ddylid cyflwyno cwyn i'r Tŷ.
"Dylid cyflwyno materion yn ymwneud â braint seneddol o dro i dro yn unig. A fy nghyfrifoldeb i yw gweithredu mewn modd sy'n atal ceisiadau gwamal."
Yn ei rôl, ychwanegodd bod angen iddo benderfynu a yw aelod wedi cyflwyno achos y dylai Tŷ'r Cyffredin ei ystyried.
"Ar ddiwedd y drafodaeth, dylai'r Tŷ benderfynu a oes angen gweithredu ymhellach," meddai.
"Nid fi sydd i ddod i benderfyniad. Felly bydd Arweinydd yr Wrthblaid yn cael y cyfle i gyflwyno'r mater i Dŷ'r Cyffredin fory, ac fe fydd dadl i ddilyn, unrhyw gwestiynau brys a datganiadau," ychwanegodd Syr Lindsay Hoyle.