Safle gwaith ailgylchu yng Nghaerdydd i agor 24 awr y dydd

ailgylchu caerdydd 24/7

Mae safle ailgylchu yng Nghaerdydd wedi derbyn caniatâd i agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos gan gynnwys dyddiau Sul a Gŵyl y Banc.

Cafodd y cais ei gyflwyno gan Plan B Management Solutions Limited sydd yn rhedeg y safle yn y brifddinas.

Dywedodd y cwmni y byddai newid yr amser gweithgarwch yn "caniatáu hyblygrwydd".

"Ar sail gofynion ein cwsmeriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, ynghyd â'r angen i brosesu deunyddiau, rydym yn gofyn am newid i'n gweithgarwch er mwyn caniatáu hyblygrwydd o agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos gan gynnwys dyddiau Sul a Gŵyl y Banc," meddai'r cwmni.

Mae'r safle ar Ystâd Ddiwydiannol Tremorfa yn ardal Splott yng Nghaerdydd ac mae'r cwmni yn esbonio ei fod yn "ardal sydd yn profi ac yn destun i ddiwydiant trwm gyda gweithgarwch trwy gydol y dydd gwaith, ac mewn achosion hanesyddol yn hwyr yn y nos".

Rhoddwyd caniatâd gan Gyngor Caerdydd i droi warws yn lleoliad ailgylchu yn 2024. 

Ers hynny, mae gwaith adeiladu ac addasu wedi cymryd bron i ddwy flynedd tan i'r safle agor yn swyddogol yn Ebrill 2026.

Er hyn, yn y cais gwreiddiol, fe gafodd gweithgarwch ei gyfyngu i rhwng 07.00 a 21.00 o ddydd Llun i ddydd Gwener, 07.00 tan 13.00 ar ddyddiau Sadwrn a dim gweithgarwch ar ddyddiau Sul a Gŵyl y Banc.

Yn ôl y cais, "mae'r safle yn cael ei ddatblygu i fod yn weithfan ailgylchu fydd yn gwasanaethu nifer o awdurdodau lleol gwahanol sydd yn gweithio saith diwrnod yr wythnos."

Mae'r cais blaenorol yn caniatáu i'r safle brosesu 75,000 tunnell o ddeunyddiau yn flynyddol. Yn ôl y cwmni, mae hyn yn cyfateb i 144 o symudiadau cerbydau yn wythnosol.

Dydy'r ymgeiswyr ddim yn bwriadu cynyddu'r nifer o ddeunyddiau sy'n cael eu prosesu ar y safle o ganlyniad i'r newid yn amseroedd gweithredu.

Maent yn gobeithio "gallu bylchu'r cyfnod gwaith sydd ar gael yn fwy ymarferol".

Mae'r adroddiad yn datgan "na fyddai'r oriau gweithredu arfaethedig yn cynyddu effaith sŵn annerbyniol ar eiddo preswyl gerllaw."

Llun gan: Plan B Management Solutions Limited

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.