Rygbi: Cymru’n ceisio adeiladu ar gyfres o fuddugoliaethau yn erbyn yr Ariannin
Rygbi: Cymru’n ceisio adeiladu ar gyfres o fuddugoliaethau yn erbyn yr Ariannin
Fe fydd Cymru yn gobeithio adeiladu ar eu buddugoliaeth yn erbyn Ffiji wrth wynebu’r Ariannin yn ail gêm Pencampwriaeth y Cenhedloedd nos Sadwrn.
Enillodd tîm Steve Tandy 39-24 yn erbyn Ffiji yng Nghaerdydd y penwythnos diwethaf, ond fe fydd yr ornest yn San Juan yn brawf llawer anoddach i’r tîm.
Fe gollodd yr Ariannin 38-27 gartref yn erbyn yr Alban yn eu gêm agoriadol o’r bencampwriaeth newydd.
Er hynny, mae’r Ariannin yn un o dimau gorau hemisffer y de ac fe fyddan nhw’n benderfynol o wneud iawn am y golled.
Mae Steve Tandy wedi gwneud tri newid i’r tîm ddechreuodd yn erbyn Ffiji.
Mae Sam Costelow yn dechrau yn safle’r maswr yn lle Dan Edwards, tra bod James Botham yn dod i mewn i'r rheng ôl yn lle Alex Mann.
Y newid mwyaf amlwg yw bod Louis Rees-Zammit ar y fainc, gydag Ellis Mee yn dechrau ar yr asgell.
Mae’n bosib y bydd blaenasgellwr Caerwysg, Kane James, sy’n dechrau ar y fainc, yn ennill ei gap cyntaf dros Gymru.
Os bydd Ryan Elias yn dod oddi ar y fainc yn ystod y gêm, fe fydd y bachwr yn ennill ei 50fed cap dros Gymru.
Mae Teddy Williams a Max Llewellyn hefyd wedi’u cynnwys ar y fainc ar gyfer y gêm.
‘Adeiladu’
Dywedodd Tandy fod y gêm yn gyfle i Gymru ddangos faint o gynnydd maen nhw wedi’i wneud yn ystod yr wythnosau diwethaf.
“Mae tri newid yr wythnos yma ac mae’r gêm hon yn cynnig cyfle gwych i’r bechgyn sy’n dod i mewn i’r tîm,” meddai.
“Yn naturiol, ry’n ni’n gobeithio adeiladu ar ein perfformiad diwethaf ac mae’r her sydd o’n blaenau’n tynnu dŵr i’r dannedd.
“Mae chwarae oddi cartref wastad yn brofiad gwahanol a chyffrous a bydd y gêm hon yn rhoi syniad da i ni o ble ry’n ni arni o safbwynt ein datblygiad diweddar.
“Ry’n ni’n gwybod bod yr Ariannin yn dîm angerddol a dawnus iawn.”
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2075193582252691539?s=20
Fe fydd yr Ariannin hefyd yn croesawu nifer o chwaraewyr profiadol yn ôl i’r tîm.
Fe fydd y chwaraewr ail reng Guido Petti yn ennill ei 100fed cap rhyngwladol, tra bod Marcos Kremer ac Efraín Elías hefyd yn dychwelyd.
Er i Gymru ennill yn erbyn Ffiji, fe gawson nhw drafferthion yn ystod yr hanner cyntaf cyn sicrhau’r fuddugoliaeth yn hwyr yn y gêm.
Fe fydd angen perfformiad mwy cyflawn os ydyn nhw am sicrhau ail fuddugoliaeth yn olynol yn San Juan.
Bydd yr Ariannin v Cymru yn fyw ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer nos Sadwrn am 19.30, gyda’r gic gyntaf am 20.10.
Lluniau: Huw Evans