Rygbi: Cwmni Y11 yn tynnu allan o brynu rhanbarth Caerdydd

Parc yr Arfau

Mae cwmni Y11 Sport and Media wedi tynnu allan o brynu rhanbarth Rygbi Caerdydd - gan ychwanegu rhagor o ansicrwydd am ddyfodol strwythur rhanbarthau rygbi Cymru.

Fe ddaeth cadarnhad ddydd Mercher fod y cwmni, sy’n berchen ar ranbarth y Gweilch, wedi tynnu allan o brynu rhanbarth y brifddinas fel rhan o benderfyniad “ar y cyd” gydag Undeb Rygbi Cymru.

Mae’r penderfyniad yn golygu y bydd Rygbi Caerdydd yn aros o dan berchnogaeth yr Undeb am y tro, hyd nes “y bydd yn gwneud synnwyr masnachol a strategol i ailystyried y penderfyniad hwnnw.”

Wedi i’r Undeb berchnogi Rygbi Caerdydd ar ôl i'r rhanbarth fynd i ddwylo’r gweinyddwyr y llynedd, daeth cadarnhad fis Ionawr eleni mai Y11, sef perchnogion y Gweilch, oedd wedi’u dewis fel darpar brynwyr y rhanbarth.

Ond gyda'r terfyn amser i gwblhau cytundeb am 19:00 nos Fercher, daeth cadarnhad yn ystod y dydd bod y cwmni wedi tynnu’n ôl o’r broses.

'Hanfodol'

Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney: “Cwmni Y11 gyflwynodd y cynnig gorau ar gyfer Rygbi Caerdydd, ond yn y pen draw mae’r Undeb wedi dod i’r casgliad mai cadw’r clwb o dan berchnogaeth Undeb Rygbi Cymru am y tro yw’r peth gorau er budd gorau’r gamp yn ein gwlad ar hyn o bryd.

“Ein huchelgais o hyd yw symud i dri thîm proffesiynol – gan bod hynny’n hanfodol ar gyfer dyfodol ein gêm.”

Dywedodd yr Undeb bod disgwyl i'r Gweilch arwyddo Cytundeb Rygbi Proffesiynol 25 (PRA25) yn ogystal, gyda'r cytundeb hefyd yn cael ei chynnig eto i Scarlets.

Roedd y Gweilch a Scarlets wedi penderfynu peidio ag arwyddo’r cytundeb y llynedd, a fyddai’n cynyddu cyllid y rhanbarthau o £4.5 miliwn i £6.5 miliwn hy nes 2029.

Mewn datganiad, mae Y11 wedi diolch i gefnowgyr y Gweilch am eu “hamynedd a’u dealltwriaeth”

Dywedodd llefarydd ar ran Y11 Sport & Media: “Cytundeb Rygbi Proffesiynol 25, ein partneriaeth â Chyngor Abertawe a datblygu maes Sain Helen yw’r cam cywir i’w gymryd ar gyfer y Gweilch a rygbi ar y lefel uchaf yn Abertawe.

“Dyma’r ffordd ymlaen wrth i ni barhau i weithio gydag Undeb Rygbi Cymru i gryfhau’r amgylchedd rygbi proffesiynol ymhellach.

“Diolch i gefnogwyr y Gweilch am eu hamynedd a’u dealltwriaeth – rydym yn gwybod bod hwn wedi bod yn gyfnod pryderus i’n cefnogwyr.”

'Achub' y Gweilch

Mae'r Gweilch wedi dangos eu hanfodlonrwydd gyda gweithredoedd URC ers iddi ddod i'r amlwg na fydd y rhanbarth hwnnw yn bodoli ar ôl tymor nesaf.

Roedd Cyngor Abertawe wedi dwyn achos cyfreithiol yn erbyn y fargen a gynigiwyd gan Undeb Rygbi Cymru ar gyfer Y11 i brynu Rygbi Caerdydd, ar ran y Gweilch.

Ond wrth ymateb i'r cyhoeddiad ddydd Mercher, dywedodd Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, bod y penderfyniad yn "fuddugoliaeth fawr" sydd yn sicrhau dyfodol y rhanbarth tu hwnt i 2030.

Dywedodd Mr Stewart: "Heddiw mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi bod y cytundeb i werthu Caerdydd i Y11 wedi’i dileu a bod Cytundeb Rygbi Proffesiynol newydd yn cael ei gynnig i’r Gweilch a’r Scarlets - gan sicrhau bod pedwar tîm yn aros o bosibl tan 2030.

"Gadewch i mi fod yn glir bod hwn yn fuddugoliaeth fawr i’r ymgyrch i achub y Gweilch ac rwy’n falch o fod wedi bod yn rhan ohoni.

"Mae hyn yn sicrhau dyfodol y Gweilch i'r 2030au ac yn caniatáu i bedwar rhanbarth proffesiynol barhau i chwarae yng Nghymru - sef yr hyn yr oedd y cefnogwyr, y chwaraewyr a'r cyhoedd ei eisiau."

Bwriad y Gweilch yw symud i faes San Helen yn Abertawe ar gyfer y tymor nesaf, gyda'r cyngor yn ariannu ailddatblygiad y maes ar y cyd gyda'r rhanbarth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.