'Ronaldo cneifio defaid' o Sir Ddinbych i geisio amddiffyn ei deitl yng nghystadleuaeth Cneifio Corwen

Gwion Lloyd Evans

Bydd cyn-bencampwr cneifio defaid y byd o Sir Ddinbych yn ceisio amddiffyn ei deitl yng nghystadleuaeth Cneifio Corwen.

Mae Gwion Lloyd Evans, 36 oed, a enillodd deitl Pencampwr Cneifiwr Defaid y Byd yn 2023, yn cael ei ystyried yn un o brif gystadleuwyr y gamp. 

Mae'r cneifiwr wedi ennill Cneifio Corwen ddwywaith, a daeth hefyd yn bumed yng nghystadleuaeth Golden Shears yn Seland Newydd eleni.

Gall Mr Evans gneifio dafad mewn llai na 40 eiliad ac oen mewn dim ond 13 eiliad, ac mae'n cael ei ddisgrifio gan rai fel "Ronaldo'r byd cneifio defaid".

"Mae'r Golden Shears yn cyfateb i'r Gemau Olympaidd," meddai Mr Evans.

"Dydi o ddim yn ymwneud â chyflymder oherwydd mi fedrwch chi ennill pwyntiau am lendid, ac mae'n rhaid i chi fod yn gorfforol ffit i ddal y defaid yn gadarn a chael y stamina i weithio trwy'r ddiadell."

Mae cneifio yn angerdd teuluol a dechreuodd Mr Evans ddysgu cneifio pan oedd yn 12 oed gyda'i dad a'i frawd.

Cystadlodd Mr Evans yn Sioe Frenhinol Cymru am y tro cyntaf pan oedd ond yn 14 oed, cyn teithio i Seland Newydd a Norwy i gneifio defaid.

"Yn Seland Newydd mae'r defaid yn fwy gyda mwy o wlân ac yn aml mae siediau cneifio yno wedi'u gosod efo peiriannau yn barod," meddai.

"Ac yn Norwy mae'r defaid hyd yn oed yn fwy - roedd yn brofiad gwych."

'Cystadlu brwd ond cyfeillgar'

Cafodd Cneifio Corwen ei sefydlu yn 1989 gan Arwyn a Iola Jones, Maes Truan.

Bydd y gystadleuaeth yn dychwelyd i Ystâd Rhug ger Corwen ar 24 a 25 Gorffennaf, ac mae disgwyl i filoedd o bobl fynychu'r digwyddiad.

Bydd cneifwyr o bob rhan o Brydain a thu hwnt yn brwydro am yr anrhydeddau uchaf yn y gystadleuaeth sydd bellach yn un o gystadlaethau mwyaf y gamp.

Erbyn hyn, mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal dros ddeuddydd ac yn cael ei drefnu gan bwyllgor o hyd at 100 o wirfoddolwyr, gyda mwy na 2,500 o ddefaid hefyd yn bresennol ar gyfer eu cneifio blynyddol.

Dywedodd Dafydd Jones, aelod o bwyllgor trefnu Cneifio Corwen: "Mae pencampwriaethau cneifio defaid yn profi pa mor gyflym a thaclus y gall cneifiwr gael gwared ar gnu. Mae beirniaid yn graddio cystadleuwyr yn ôl amser ac ansawdd.

"Mae gennym chwe chystadleuaeth - Cneifio i Ddynion, Cneifio i Ferched a Chneifio Iau, Trin Gwlân a Chneifio Llafn i gyd wedi'u rhannu'n adrannau dechreuwyr, canolradd ac agored yn ogystal â Phencampwriaeth Cymru.

"Mae’r cystadlu yn frwd ond bob amser yn gyfeillgar."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.