'Roedd e’n fraint enfawr’ meddai seren y Llais am ofalu am y ffrind a fu farw o diwmor ar yr ymennydd

'Roedd e’n fraint enfawr’ meddai seren y Llais am ofalu am y ffrind a fu farw o diwmor ar yr ymennydd

Mae Lywis, ddaeth yn ail ar Y Llais ar S4C, wedi siarad am y profiad dirdynnol o ofalu am ffrind agos a fu farw ar ôl dioddef o diwmor ar yr ymennydd.

Bu farw ei ffrind Stuart Andrew Evans, ychydig fisoedd ar ôl i Lywis a’i ŵr Ben Aldridge-Cowles briodi.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Lywis, sy’n wreiddiol o Drebannws yng Nghwm Tawe, iddo symud i Lundain i astudio theatr gerddorol, lle y gwnaeth gwrdd â Ben ac, yn ddiweddarach, â Stuart.

Dywedodd fod y tri wedi dod fel “teulu bach”, a bod Stuart yn rhywun yr oedd ef a Ben yn gallu dibynnu arno “trwy’r amser”.

Roedd Stuart yn gweithio ym maes lletygarwch, gan gynnwys yng Ngwesty’r Savoy, ac roedd hefyd wedi gweithio ym Mhalas Buckingham pan oedd yn iau.

Yn ôl Lywis, roedd Stuart yn rhywun oedd yn hoffi “y pethau da am bywyd”, ac yn bresenoldeb cryf ym mywydau’r ddau.

Ychydig flynyddoedd ar ôl iddyn nhw gwrdd, cafodd Stuart ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd, cam pedwar. 

Dywedodd Lywis fod gweld Stuart, oedd wedi bod mor gryf ac wedi rhoi cymaint o gefnogaeth iddo ef a Ben, yn dirywio oherwydd ei salwch wedi bod yn “rili, rili, rili drist”.

“Roedd e’n ddyn o’n ni’n gallu dibynnu arno fe, trwy’r amser,” meddai.

Ar ôl i Stuart fynd yn sâl, fe wnaeth Lywis a Ben ei symud i Gymru, yn agos at gefnogaeth teulu Lywis, er mwyn gallu gofalu amdano.

Dywedodd Lywis fod cyfnod Covid wedi rhoi cyfle iddyn nhw “stopio popeth” a gwneud y gorau o’r amser oedd ganddyn nhw gyda’i gilydd.

Fel rhan o’r cyfnod hwnnw, fe aethon nhw â Stuart i Langland, un o’i hoff lefydd ar lan y môr.

“Roedd e’n atgof rili sbeshyl,” meddai Lywis, gan ychwanegu ei fod yn trysori’r cyfle i Stuart gael gweld y byd tu allan eto ar ôl treulio cymaint o amser yn gwarchod rhag Covid.

Image
Lywis, Ben a Stuart
Disgrifiodd Lywis cyfeillgarwch y tri fel "teulu bach"

Ar ôl y diagnosis, roedd hi’n bwysig i Lywis a Ben briodi tra bod Stuart yn dal yn gallu bod yno gyda nhw.

Roedd yr ysbyty wedi dweud y gallai Stuart fyw am flynyddoedd, ond roedd hi'n bosib mai misoedd yn unig fyddai ganddo.

Dywedodd Lywis ei fod eisiau’r diwrnod “mewn dim ond un ffordd. A’r ffordd yna oedd gyda Stuart."

Bu farw Stuart ychydig fisoedd ar ôl y briodas.

‘Ofnus iawn’

Roedd Lywis ei 20au cynnar pan oedd yn gofalu am Stuart.

Dywedodd fod gofalu am rywun oedd bron ddwywaith ei oedran yn brofiad “ofnus iawn”.

Ond ychwanegodd ei fod hefyd yn “fraint enfawr” cael y cyfle i roi rhywbeth yn ôl i rywun oedd wedi bod mor bwysig yn ei fywyd.

“Mae rhaid i ti just cymryd pob, pob fel eiliad sy’ gen ti a chael hwyl,” meddai.

“Ti byth yn gwybod pryd mae’r amser yn dod i ddiwedd.”

Dywedodd Lywis fod y profiad wedi newid ei ffordd o edrych ar fywyd, gan wneud iddo werthfawrogi’r amser sydd ganddo gyda’r bobl sydd agosaf ato.

‘Heb hyder’

Er iddo fynd drwy gyfnod mor anodd, dywedodd Lywis ei fod wedi brwydro yn erbyn diffyg hyder cyn mynd ar Y Llais.

“O’n i mor, fel, heb hyder am fy hun,” meddai, gan ychwanegu ei fod yn meddwl y byddai pobl “yn just yn chwerthin fi off y llwyfan”.

Ond fe gyrhaeddodd rownd derfynol y gystadleuaeth fel rhan o dîm Aleighcia Scott, gan ddod yn ail.

Disgrifiodd y profiad fel un “mor wych” a “bythgofiadwy”.

“Fi’n credu bydd Stuart yn rili, rili falch,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.