Rhyfel y Dwyrain Canol yn achosi 'cynnydd sylweddol' i gostau Ambiwlans Awyr Cymru

S4C

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn dweud eu bod yn wynebu cynnydd sylweddol mewn costau tanwydd yn sgil y rhyfel yn y Dwyrain Canol.

Dywed yr elusen y byddai'n wynebu costau ychwanegol o tua £50,000 hyd yn oed pe bai'r rhyfel yn dod i ben yn y dyddiau nesaf, a hynny yn sgil cynnydd ym mhrisiau tanwydd awyrennau.

Mae'r elusen yn ymateb i rai o argyfyngau meddygol mwyaf difrifol Cymru, ac yn aml yn gorfod gwneud hediadau pellter hir, mynd â meddygon at y cleifion ac yna eu cludo i ysbytai arbenigol yng Nghymru a Lloegr i gael y gofal brys sydd ei angen arnynt.

Dywedodd peilot Ambiwlans Awyr Cymru James Gardiner: "Bob tro yr ydym ni'n mynd i'r awyr, rydym ni'n gwybod fod rhywun ar y ddaear yn dibynnu arnom ni yn ystod un o adegau gwaethaf eu bywyd. 

"Nid dim ond cost i ni yw tanwydd – dyma sy'n ein galluogi i fynd â'n gofal o safon Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys i gleifion, lle bynnag y maen nhw yng Nghymru, cyn eu cludo nhw i'r ganolfan fwyaf briodol.

"Pan y mae costau tanwydd yn cynyddu mor sydyn â hyn, mae'n cael effaith sylweddol. Mae'r gefnogaeth yr ydyn ni'n ei derbyn gan y cyhoedd yn golygu ein bod ni'n gallu parhau i hedfan, ac rydyn ni'n hynod o ddiolchgar i bawb sy'n gwneud y gwasanaeth yma yn bosib."

Cost ychwanegol

Ers dechrau'r rhyfel, mae'r elusen yn dweud iddyn nhw brofi cynnydd sylweddol yng nghostau tanwydd, a hynny ar adeg lle mae defnydd yr ambiwlans awyr yn cynyddu yn draddodiadol. 

Mae gan y gwanwyn a'r haf amodau tywydd gwell, gan arwain at gynnydd yn yr oriau hedfan. 

Mae'r elusen yn dibynnu ar gyfraniadau cyhoeddus i godi'r £13 miliwn sydd ei angen yn flynyddol i gadw hofrenyddion yn yr awyr a cherbydau ymateb brys ar y ffyrdd. 

Ychwanegodd Dr Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: "Mae'r rhyfel yn y Dwyrain Canol wedi creu her annisgwyl ac un dros dro, gobeithio. 

"Mae costau tanwydd cynyddol yn broblem ddifrifol i elusennau ambiwlans awyr ar draws y DU ac yn adlewyrchu materion rhyngwladol sydd y tu hwnt i'n rheolaeth. 

"Pan y mae bywyd rhywun yn y fantol, mae'n rhaid i'n criwiau ni fod yn barod i hedfan, does dim ots beth yw'r pellter nac amser y dydd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.