Rhybudd coch am wres eithafol mewn grym wrth i ysgolion gau
Mae hyd at 500 o ysgolion mewn nifer o siroedd ar gau neu am gau yn gynnar ddydd Mercher, wedi i rybudd coch prin am wres eithafol ddod i rym i rannau o dde Cymru.
Mae'r rhybudd prin gan y Swyddfa Dywydd wedi dechrau am 09:00 fore dydd Mercher, ac fe fydd mewn grym tan 23:59 nos Iau.
Mae sawl ysgol mewn sawl sir wedi cyhoeddi y byddant yn cau am ddeuddydd o ddydd Mercher hyd at fore dydd Gwener o achos y rhybudd.
Mae ardal y rhybudd coch am wres eithafol yn ymestyn o Abertawe i du hwnt i Lundain, ac fe all y tymheredd gyrraedd 40C mewn mannau dros y dyddiau nesaf.
Inline Tweet: https://twitter.com/metoffice/status/2068990866559995943
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru eu bod yn cynghori teithwyr sy'n teithio i mewn i'r ardal rhybudd coch, drwyddi neu allan ohoni i deithio "dim ond os yw'n gwbl angenrheidiol."
Ychwanegodd llefarydd: "Gallai'r tymheredd gyrraedd hyd at 38°C, sy'n debygol o achosi tarfu sylweddol i wasanaethau trenau, gyda newidiadau i'r gwasanaethau bellach ar waith.
"Gall gwres eithafol effeithio ar draciau, llinellau pŵer uwchben a threnau, sy'n golygu y gall gwasanaethau gael eu gohirio neu eu canslo ar fyr rybudd, neu gallant gymryd mwy o amser nag arfer oherwydd cyfyngiadau cyflymder.
"Gwiriwch eich taith cyn cychwyn gan ddefnyddio ein map byw, ap neu wefan. Caniatewch amser ychwanegol gan y gall teithiau gymryd mwy o amser nag arfer a chofiwch ddod a photel o ddŵr gyda chi ag yfed digon o ddŵr hefyd. Os ydych chi'n teimlo'n sâl, gofynnwch am gymorth gan staff ar y trên neu staff yr orsaf."
Effaith ar iechyd
Dywed y Swyddfa Dywydd y gallai'r gwres gael effaith niweidiol ar iechyd rhai pobl "ar draws y boblogaeth, heb fod yn gyfyngedig i'r rhai sydd fwyaf agored i wres eithafol - gan arwain at salwch difrifol neu berygl i fywyd."
Bydd y tymheredd o bosib yn golygu "risg uchel o fethiant" i systemau ac offer sy'n sensitif i wres, gyda cholli cyflenwad trydan a gwasanaethau hanfodol eraill, fel dŵr, nwy neu wasanaeth ffôn symudol yn bosib.
Hefyd fe fydd llawer mwy o bobl yn ymweld ag ardaloedd arfordirol, llynnoedd ac afonydd, ac fe allai hyn arwain at "risg uwch o ddigwyddiadau diogelwch dŵr".
Mae 40 o bobl wedi bodd yn Ffrainc yn y dyddiau diwethaf o achos y gwres eithafol sydd wedi bod yno, ac fe wnaeth nifer o bobl a phlant foddi yma ym Mhrydain yn y cyfnod diweddar o dywydd poeth hefyd.
Gallai'r tymheredd achosi oedi ar y ffyrdd a chau rhai ffyrdd, ynghyd ag oedi neu ganslo teithiau ar reilffyrdd ac mewn meysydd awyr, gyda phroblemau lles sylweddol i'r rhai sy'n profi oedi hyd yn oed am gyfnod cymharol fyr medd y Swyddfa Dywydd.
Dyma'r darlun diweddaraf am yr ysgolion sydd ar gau:
Blaenau Gwent - Pob ysgol ar gau ar 24 a 25 Mehefin
Torfaen - Pob ysgol ar gau ar 24 a 25 Mehefin
Sir Gâr - Pob ysgol uwchradd ar gau ar 24 a 25 Mehefin
Caerffili - Pob ysgol uwchradd ar gau ar 24 a 25 Mehefin
Casnewydd - Pob ysgol ar gau ar 24 a 25 Mehefin - heblaw am Ysgol Gynradd Parc Malpas, Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff, Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair ac Ysgol Gynradd Gatholig Sant Padrig. Bydd cyfle i rieni'r ysgolion hyn gasglu eu plant ar ôl amser cinio.
Caerdydd - Gwiriwch wefan yr ysgol benodol
Bro Morgannwg - Gwiriwch wefan yr ysgol benodol