Rhai o afonydd Cymru wrth galon un o achosion cyfreithiol llygredd amgylcheddol mwyaf y DU

Afon Gwy

Mae disgwyl i wrandawiad cyntaf un o'r achosion mwyaf ym Mhrydain yn ymwneud gyda llygredd amgylcheddol gael ei glywed yn yr uchel lys ddydd Llun.

Mae mwy na 4,500 o bobl yn dwyn achos llys yn erbyn Dŵr Cymru a chwmniau ieir a thwrciod gan honni eu bod yn llygru yr Afon Gwy, Llugwy ac Wysg. 

Yn ôl y rhai sydd yn dwyn yr achos mae carthffosiaeth, cemegau a thail ieir wedi eu rhyddhau i'r dŵr gan effeithio ar ansawdd yr afonydd. 

Maen nhw'n dweud bod bioamrywiaeth wedi ei golli a bod y llygredd wedi effeithio gweithgareddau hamdden ar yr afon a gwerth eiddo.

Bydd y gwrandawiad yn dechrau yn yr Uchel Lys ddydd Llun. 

Nod y gwrandawiad fydd penderfynu sut y bydd yr achos yn cael ei reoli, gan gynnwys gosod amserlenni a therfynau amser i bartïon ychwanegol ymuno â'r achos.

Does dim disgwyl datrysiad yn yr achos am rai blynyddoedd.

Mae Avara Foods Limited, Freemans of Newent Limited a Dŵr Cymru yn gwadu'r honiadau.

Mewn datganiad dywedodd y cwmni cyfreithiol sydd yn cynrychioli'r miloedd o bobl, Leigh Day,bod yr ymddangosiad cyntaf o flaen y llys yn "gam pwysig".

"Maent yn teimlo nad yw’r llywodraeth a’r rheoleiddwyr wedi gwneud digon i atal dirywiad yr afonydd hyn, gan adael achos llys fel eu hunig opsiwn er mwyn sicrhau cyfiawnder amgylcheddol," medden nhw.

Dywedodd Dŵr Cymru eu bod nhw wedi buddsoddi mwy na £76m i wella ansawdd dŵr ar afonydd Gwy, Llugwy ac Wysg.

Dywedodd Avara Foods eu bod nhw'n "hyderus yn ein safbwynt ac yn credu nad oes sail wyddonol briodol i'r honiad".

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.