Reform UK yn addo codi’r lwfans personol di-dreth i £15,000 pe bai'n llywodraethu
Mae Reform UK yn addo cynyddu’r lwfans personol di-dreth i £15,000 pe bai nhw'n ennill yr etholiad cyffredinol nesaf.
Mae disgwyl i lefarydd Reform ar yr economi, Robert Jenrick, ddweud wrth gynhadledd y blaid yn Birmingham ddydd Sadwrn y byddai'n cyflwyno’r toriad treth o fewn ei 100 diwrnod cyntaf fel Canghellor.
Mae aelodau o fewn Reform yn ystyried hwn yn brif gyhoeddiad polisi’r gynhadledd.
Dywedodd y blaid ei bod yn amcangyfrif y byddai cynyddu’r trothwy £2,430 yn arbed £500 y flwyddyn i’r rhan fwyaf o drethdalwyr, ac y byddai 2.9 miliwn o bobl yn rhoi’r gorau i dalu treth incwm yn gyfan gwbl.
Ychwanegodd y blaid y byddai’r polisi’n costio £17.7 biliwn yn y flwyddyn gyntaf, gan godi i £21 biliwn erbyn y bumed flwyddyn, ac y gallai gael ei ariannu drwy doriadau o £80 biliwn i wariant cyhoeddus.
“Fel Canghellor, byddaf yn deffro bob bore gydag un nod, sef gwneud Prydain yn lle gwell i fod yn weithiwr nag yr oedd y diwrnod blaenorol ,” mae disgwyl i Robert Jenrick ddweud yn ei araith yn ddiweddarach ddydd Sadwrn.
Mae disgwyl iddo ychwanegu: “Cafodd 1.3 miliwn eu tynnu i mewn i dalu treth y llynedd yn unig. Pam? Oherwydd bod y lwfans di-dreth wedi bod yn sownd ar £12,500 ers 2021. Ac mae Llafur wedi ei rewi tan 2031.
“Mae’r brad hwnnw’n costio mwy na £750 y flwyddyn i weithiwr llawn amser ar yr isafswm cyflog."
Codi'r trothwy i £20,000
Yn ei maniffesto cyn Etholiad Cyffredinol 2024, dywedodd Reform y byddai'n codi’r trothwy ar gyfer y lwfans personol di-dreth i £20,000. Mae disgwyl i Robert Jenrick ddweud wrth aelodau’r blaid yn y gynhadledd mai dyma yw’r nod yn yr hirdymor.
Yn fuan ar ôl dod yn Brif Weinidog y DU, dywedodd Andy Burnham wrth y Times fod “rhwystredigaeth” pobl yn ei etholaeth ym Makerfield ynghylch y lwfans sydd wedi’i rewi wedi “aros yn fy meddwl”.
Dywedodd yn ddiweddarach y byddai “hyn i gyd yn cael ei ystyried” yn y Gyllideb, ond y byddai unrhyw newid yn “anodd o ystyried yr amgylchiadau ariannol”.
Mae Reform wedi dweud y byddai eu toriadau gwariant yn cynnwys gostyngiad o £50 biliwn mewn gwariant lles.
Bydd arweinydd y blaid Nigel Farage yn cloi'r gynhadledd ddydd Sadwrn, wrth i honiadau am dorri rheolau rhoddion ariannol fwrw cysgod dros y digwyddiad.
Mae Mr Farage wedi gwadu fod Reform UK wedi torri unrhyw gyfraith na derbyn "unrhyw arian amheus."
Fore dydd Gwener, cyhoeddodd Reform fod dau swyddog dylanwadol, James Orr a Dan Jukes, wedi camu o'r neilltu wrth aros am ganlyniad ymchwiliad y blaid i'r honiadau gafodd eu darlledu ar raglen Channel 4 News nos Iau.
Mae'r ddau yn ymgynghorwyr i Mr Farage, gyda James Orr yn bennaeth polisi ar y blaid.
Wrth annerch cynhadledd y blaid yn Birmingham ddydd Gwener, dywedodd Mr Farage fod yr honiadau wedi eu gwneud gan "eu bod nhw'n ein hofni ni."
Mae pleidiau eraill wedi cysylltu â'r heddlu yn dilyn yr honiadau bod Reform wedi derbyn cyllid gan gwmni o'r Unol Daleithiau ar gyfer cynnal tri arolwg barn, a gostiodd £32,500.
Nid yw cwmnïau tramor yn cael rhoi rhoddion i bleidiau yn y DU - gan gynnwys taliadau am astudiaethau ac ymchwil - ac fe allai hynny fod yn drosedd.
Gohebwyr cudd o'r grŵp ymchwil Verbatim oedd y rhai oedd yn rhoi'r arian, gan esgus bod yn gefnogwr ariannol Americanaidd oedd â mab yn byw yn y DU.