Putin, Trump a Xi yn ysgwyd llaw cyn cyfarfod am y tro cyntaf erioed

Trump / Ji / Putin

Mae arweinwyr tri o bwerau mawr y byd – Tsieina, Rwsia ac America – wedi dod ynghyd cyn iddyn nhw gyfarfod fel triawd am y tro cyntaf erioed.

Cafodd lluniau o'r arlywyddion Xi Jinping, Vladimir Putin a Donald Trump yn ysgwyd llaw eu cyhoeddi ddydd Mercher wrth i'r tri gwrdd ar ymylon uwchgynhadledd yn Shenzhen, Tsieina.

Mae disgwyl iddyn nhw eistedd i lawr i drafod fel triawd mewn cyfarfod digynsail ddydd Iau.

Mae pynciau dyrys fel y rhyfeloedd yn Wcráin ac Iran, datblygiad AI, sancsiynau economaidd a'r honiadau ysbïo ynghylch cyn-bennaeth cwmni technoleg Nvidia yn gefndir i'r digwyddiad hanesyddol.

Fe wnaeth Putin a Xi, sy'n gynghreiriaid agos, gyfarfod yn gynharach wrth i uwchgynhadledd APEC, sy'n dod ag arweinwyr o bob rhan o Asia a'r Môr Tawel ynghyd, gychwyn.

Cyrhaeddodd Trump yn ddiweddarach, gan dderbyn croeso personol gan Xi wrth i garped coch gael ei osod ar lain glanio'r maes awyr.

Beth sydd ar yr agenda?

Bydd y lluniau o Xi, Putin a Trump gyda'i gilydd yn cael eu darlledu ar draws y byd - ond prin yw'r manylion am beth yn union y byddan nhw'n ei drafod.

Mae llawer o bynciau llosg allai godi, er hynny.

Yn ôl y Wall Street Journal, Putin wnaeth bwyso am y trafodaethau, er mwyn ceisio dod â'r rhyfel yn Wcráin i ben. Mae swyddogion llywodraeth Trump wedi bod yn gwthio eu cynllun heddwch dros yr wythnosau diwethaf, gan arwain at drafodaethau rhwng Rwsia ac Wcráin, dan lywyddiaeth Washington.

Mae arfau yn un maes trafod posib arall. Ym mis Hydref, fe ddywedodd Donald Trump y byddai'n croesawu trafodaethau gyda'r ddau arweinydd arall ynglŷn â chael gwared ag arfau niwclear.

Image
Donald Trump
Cyrhaeddodd Trump Tsieina ar ôl ymweld ag Ynysoedd y Philipinau. Llun: Joyce Boghosian/Y Tŷ Gwyn

Fe awgrymodd Trump wrth newyddiadurwyr yn gynharach y mis yma, y byddai rhyfel yr Unol Daleithiau ac Israel ar Iran - un o gynghreiriaid Rwsia - ymhlith y pynciau posib.

Mae'n ddigon posib, ar yr un pryd, mai materion llai dadleuol fel cytundebau masnach fydd yn cael eu trafod yn y pendraw.

Cynhadledd ehangach

Er mai'r enwau mawr fydd yn tynnu sylw, mae degau o arweinwyr byd, gan gynnwys Prif Weinidog Canada, Mark Carney, yn bresennol yn Shenzhen.

Mae Mr Carney ei hun wedi cael perthynas anodd â Donald Trump, sydd wedi bygwth gwneud Canada yn rhan o Unol Daleithiau America. 

Prif lun: Reuters

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.