Pump wedi'u cludo i'r ysbyty wedi gwrthdrawiad mewn parc manwerthu yn Llandudno
Mae pump o bobl wedi’u cludo i’r ysbyty ar ôl i’r gwasanaethau brys ymateb i wrthdrawiad mewn parc manwerthu yn Llandudno ddydd Sadwrn.
Cafodd tri ambiwlans a dau ambiwlans awyr eu galw i Barc Manwerthu Mostyn Champneys yn Llandudno am 10.52 ddydd Sadwrn.
Roedd swyddogion Heddlu Gogledd Cymru hefyd wedi eu galw i’r lleoliad, yn ogystal ag uned ymateb cyflym a Rheolwr Gweithrediadau o Wasanaeth Ambiwlans Cymru.
Dywedodd y llu bod "sawl cerbyd a sawl cerddwr" wedi bod yn rhan o'r gwrthdrawiad.
Cafodd triniaeth feddygol ei roi i bobl yn y lleoliad, cyn i bump o gleifion, sef un o yrwyr y ceir a sawl cerddwr, eu tywys i Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, mewn sawl ambiwlans am asesiad meddygol pellach.
Mae'r llu yn apelio am wybodaeth gan unrhyw dystion oedd yn y lleoliad ar y pryd.
Ychwanegodd llefarydd: "Rydym yn annog i unrhyw un a wnaeth weld y cerbyd yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad, neu a oedd yn y lleoliad ar y pryd, i gysylltu â ni.
"Rydym yn ymwybodol o wybodaeth sydd yn cael ei rannu am y digwyddiad ar y cyfryngau cymdeithasol. Rydym yn cadarnhau bod yn ddigwyddiad unigol ac nad oes risg pellach i'r cyhoedd."
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau dashcam o'r digwyddiad rhannu gyda'r llu drwy ddyfynnu’r cyfeirnod O115621.
Llun: Aaran Lennox