Pump o’r gogledd yn euog o gamfanteisio’n rhywiol ar blant

Pump yn euog o gamfanteisio'n rhywiol

Mae pump o bobl wedi cael eu dyfarnu'n euog yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun o gamfanteisio'n rhywiol ar blant.

Mae'r euogfarnau'n ymwneud â camfanteisio a cham-drin tair merch yn eu harddegau yn ardal y Rhyl rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2024.

Roedd oedran y dioddefwyr yn amrywio rhwng 14 ac 16 oed ar adeg y troseddau,.

Fe ddigwyddodd y camfanteisio mewn ceir, cyfeiriadau preswyl, ac mewn safleoedd busnes yn ardal Sir Ddinbych.

Yn ystod achos llys tri mis, clywodd y llys dystiolaeth o dreisio, ymosodiad rhywiol, camfanteisio'n rhywiol ar blant, troseddau caethwasiaeth modern, cyflenwi cyffuriau, ac ymdrechion i rwystro cyfiawnder.

Roedd pob un o'r diffynyddion wedi gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn yn y llys a dadlau eu bod yn ddieuog trwy gydol yr achos.

Yn dilyn dedfryd unfrydol yn y llys, cafwyd y pum diffynnydd yn euog o fwy na 40 o droseddau ar wahân.

Mae Mustafa Iqbal, Mohamed Usman Arshad, Ziaullah Badsha a Jaswinder Singh o’r Rhyl wedi cael eu cadw yn y ddalfa. 

Mi fydden nhw yn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ar gyfer dedfryd ar ddydd Gwener 25 Medi.

Cafwyd Sarah Gray, 53 oed o Gronant, yn euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder, helpu troseddwr, cynllwynio i gyflenwi cocên i rywun arall a chynllwynio i gyflenwi canabis i rywun arall.

Cafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ar gyfer dedfryd ar yr un diwrnod.

Dyfarniadau hanfodol

Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio yn yr achos, Ditectif Brif Arolygydd Richard Sidney: "Heddiw, mae fy meddyliau i'n bennaf hefo'r tair merch ifanc sydd wrth wraidd yr achos hwn. Roedden nhw'n blant, dim ond 14 i 16 oed, pan wnaethon nhw ddioddef camfanteisio a cham-drin gan oedolion a oedd yn manteisio ar eu gwendidau ac yn ceisio eu dylanwadu a'u rheoli er eu budd eu hunain.

"Ni ddylai unrhyw blentyn orfod mynd drwy'r hyn a ddioddefodd y merched ifanc hyn. 

"Gall effaith camfanteisio'n rhywiol ar blant fod yn ddwys ac yn hirhoedlog, ac ni ellir tanbrisio'r niwed a achosir gan y troseddau hyn.

"Mae dyfarniadau heddiw yn gam hanfodol tuag at atebolrwydd a chyfiawnder. Er na all unrhyw ganlyniad llys ddadwneud y trawma y mae'r merched ifanc hyn wedi'u profi, dwi'n gobeithio bod y canlyniad hwn yn cydnabod rhywfaint y niwed a wnaed iddyn nhw."

Llun: Heddlu Gogledd Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.