Protestwyr mewn mygydau yn atal traffig 'ar bob llwybr' i borthladd Dover
Protestwyr mewn mygydau yn atal traffig 'ar bob llwybr' i borthladd Dover
Mae cannoedd o brotestwyr mewn mygydau wedi bod yn atal traffig "ar bob llwybr" i borthladd Dover.
Y gred yw bod y brotest yn "ymwneud â mewnfudo anghyfreithlon", gyda fideos ar-lein yn dangos nifer o bobl yn y porthladd, yn gwisgo dillad du a balaclafas.
Fe wnaeth Porthladd Dover gadarnhau mewn datganiad fore Sadwrn fod y brotest yn effeithio ar "bob llwybr" wrth gyrraedd a gadael y porthladd, yn ogystal â thref Dover.
"Mae hyn yn effeithio ar bob llwybr i mewn ac allan o'r porthladd a'r dref. Rydym mewn cysylltiad â Heddlu Caint i geisio deall yr hyn sy'n digwydd.
"Mae'r sefyllfa yn effeithio ar ein cymuned leol a'n cwsmeriaid, felly wrth gwrs, rydym yn gobeithio am ddatrysiad cyflym."
Mae fideos ar-lein yn dangos y protestwyr yn cerdded ar y ffyrdd ac ar gylchfannau ger y porthladd, gan arwain at res hir o draffig.
Mae'n ymddangos mai dynion yw mwyafrif llethol y protestwyr.
Awgrymodd yr ymgyrchyd dadleuol, Tommy Robinoson ar gyfrwng cymdeithasol X ddydd Sadwrn, fod mwy o gynlluniau i "gau" ardaloedd ym mhorthladd Dover
"Ar y cyd mewn lleoliadau gwahanol ar draws Dover, mae gwladgarwyr wedi uno i gau'r porthladd.
"Mae tri lleoliad wedi eu gau hyd yma gyda chynlluniau i gau sawl mwy," meddai.
Dywedodd yr heddlu fod eu swyddogion yn bresennol yn yr ardal ac "yn cyfathrebu" â'r protestwyr.
Deth cyhoeddiad amser cinio fod cerbydau bellach yn medru mynd i mewn ac allan o'r porthladd.
Mae cwmni P&O Ferries yn dweud bod eu teithiau yn "parhau yn ôl yr amserlen", gan ychwanegu bod unrhyw un sydd yn methu eu cwch yn cael cynnig tocyn i'r daith nesaf.
Mae mynediad i'r porthladd wedi gwella yn rhannol ar ffordd yr M2/A2, ond mae dal diffyg mynediad o'r M30/A20, meddai P&O Ferries.
Ychwanegodd National Highways bod yr A20 i'r dwyrain rhwng A256 a A2 yn parhau ar gau, tra bod cyfeiriad y gorllewin "wedi clirio ar y cyfan."
Mae dal disgwyl tua 25 munud o oedi i deithwyr.
Wrth ymateb i'r brotest, dywedodd yr Aelod Seneddol Llafur dros Dover a Deal, Mike Tapp, ei fod mewn cysylltiad â'r heddlu.
"Dwi wedi cael llond bol ar ffyliaid yn dod i Dover i achosi aflonyddwch. Dwi'n mentro dweud, pe byddech chi'n gofyn i unrhyw un o'r ‘protestwyr’ hynny, na fydden nhw'n gwybod bod nifer y bobl sy'n croesi mewn cychod bychain wedi gostwng 40% a'n bod ni'n gweithio'n galed i ddatrys y llanast.
“Ewch adref, mwynhewch eich penwythnos/dewch o hyd i swydd.”