Prif Weinidog yr Alban yn datgan bod yr SNP wedi ennill buddugoliaeth 'ysgubol'
Mae Prif Weinidog yr Alban, John Swinney wedi datgan bod yr SNP wedi sicrhau buddugoliaeth "ysgubol" yn yr etholiad.
Pan gafodd yr holl ganlyniadau eu cyhoeddi - ar ôl mwy na 16 awr o gyfrif - roedd gan yr SNP 58 ASau - saith yn brin o fwyafrif ac i lawr o’r 64 a enillodd y blaid yn 2021.
Mae’r canlyniad yn sicrhau pumed tymor mewn grym i’r SNP yn yr Alban, wrth i Lafur gofnodi ei chanlyniad gwaethaf erioed yn Holyrood a dod yn gydradd ail â Reform UK.
Dywedodd Mr Swinney fod gan y Prif Weinidog Keir Starmer, sydd dan bwysau, “lawer o wrando i’w wneud”, a galwodd am barch rhwng y ddwy lywodraeth.
Dywedodd fod y berthynas rhwng Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU wedi “dirywio” dros y misoedd diwethaf.
“Byddwn i’n hoffi mwynhau perthynas fwy cydweithredol â Llywodraeth y Deyrnas Unedig,” meddai.
Gan ychwanegu bod Llafur “wedi cael ei tharo’n galed yn yr Alban”, dywedodd Mr Swinney: “Rwy’n gobeithio bod y wers honno’n cael ei dysgu yn Downing Street, sef bod rhaid bellach i Lywodraeth y DU ddangos parch at Lywodraeth yr Alban.”
Y canlyniadau
Roedd Reform UK, oedd â dim ond un AS cyn yr etholiad, yn gydradd â Llafur yn yr ail safle, gyda 17 AS.
Roedd hynny’n ostyngiad i Lafur o’r 22 sedd a enillodd plaid Anas Sarwar bum mlynedd yn ôl.
Cyfaddefodd arweinydd Llafur yr Alban, Mr Sarwar, fod ei blaid yn “brifo” ar ôl y canlyniad.
Ond awgrymodd na fyddai’n camu i lawr fel arweinydd y blaid.
Wrth siarad yn Glasgow yn gynharach ddydd Gwener, dywedodd Mr Sarwar: “Mae fy mhlaid yn brifo - rydyn ni’n siomedig.
“Rydyn ni’n dadlau dros newid; wnaethon ni ddim ennill y ddadl honno, ond fy ngwaith i yw ein cadw ni gyda’n gilydd, ac mae hynny’n waith rwy’n bwriadu ei wneud.”
Yn y cyfamser, fe enillodd Gwyrddion yr Alban 15 AS, y nifer uchaf erioed iddyn nhw.
Dychwelodd y Ceidwadwyr 12 AS i Senedd yr Alban - i lawr o 31 yn yr etholiad diwethaf a’u canlyniad gwaethaf erioed yn Holyrood.
Cynyddodd Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban eu cyfanswm i 10.
Er i Reform UK orffen yr ymgyrch yn gydradd ail, cafodd eu holl ASau eu hethol drwy’r system rhestr ranbarthol, gyda’u harweinydd yn yr Alban, yr Arglwydd Malcolm Offord, yn cael ei ethol yn AS dros Orllewin yr Alban ar ôl colli yn etholaeth Inverclyde.
Cafodd Mr Swinney ei longyfarch ar gael ei ail-ethol fel Prif Weinidog gan Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump.
Mewn neges ar Truth Social yn gynnar ddydd Sadwrn, dywedodd Mr Trump: “Mae’n ddyn da, a weithiodd yn galed iawn, ynghyd â Brenin a Brenhines y Deyrnas Unedig, mewn perthynas â chael gwared â’r tarfiff ar Wisgi Gwych yr Alban - ac mae’n haeddu’r Fuddugoliaeth Etholiadol Fawr hon!”