Nifer yr achosion o'r feirws hanta ar long bleser yn cynyddu i chwech

MV Hondius

Mae nifer yr achosion o'r hantafeirws sydd wedi'u cadarnhau mewn cysylltiad â'r llong bleser MV Hondius wedi cynyddu i chwech, meddai Sefydliad Iechyd y Byd.

Mae cyfanswm o wyth o bobl wedi mynd yn sâl o ganlyniad i'r feirws - gan gynnwys tri o bobl sydd wedi marw - gyda chwe achos wedi'u cadarnhau a dau achos tebygol wedi'u nodi, meddai'r corff iechyd mewn diweddariad nos Wener.

Mae'r holl achosion sydd wedi'u cadarnhau wedi'u nodi fel math yr Andes o'r feirws.

Gall achosion hantafeirws, sy’n cael eu lledaenu fel arfer drwy wrin neu faw llygod, achosi salwch anadlol difrifol.

Mae pedwar person yn parhau yn yr ysbyty mewn tair gwlad wahanol: De Affrica, Yr Iseldiroedd a'r Swistir.

Cafodd yr achos cyntaf ei gofnodi ar y llong bleser MV Hondius ddydd Llun, a oedd yn hwylio o’r Ariannin i Cape Verde.

Mae'r MV Hondius bellach yn hwylio i Ynysoedd y Dedwydd yng Nghefnfor yr Iwerydd.

Mae disgwyl iddi gyrraedd porthladd Granadilla yn Tenerife yn oriau mân ddydd Sul, ar ôl gadael Cape Verde ddydd Mercher.

Ar hyn o bryd mae 147 o bobl - 87 o deithwyr a 60 o aelodau'r criw - yn parhau ar fwrdd y llong. Y gred yw bod 22 ohonynt yn Brydeinwyr.

Dywedodd swyddog technegol Sefydliad Iechyd y Byd, Anais Legand, nad ydyn nhw'n profi unrhyw symptomau.

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.