Y ‘Prif Gopyn’ yn mynd a’i gyngor lleol i’r llys
Mae cyn-brif gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru wedi mynd â’i gyngor lleol i’r llys, gan ddweud nad ydyn nhw wedi clirio coed sydd wedi syrthio ar lwybr troed cyhoeddus.
Dywedodd Richard Brunstrom, a gymerodd yr enw ‘Y Prif Gopyn’ yng Ngorsedd y Beirdd, bod y llwybr serth uwchben pentref Dolgarrog yn Nyffryn Conwy ar gau “yn anghyfreithlon”.
Mae’r llwybr wedi’i rwystro gan nifer o goed wedi’u chwythu i lawr ers i Storm Darragh daro Cymru ar ddiwedd 2024.
Dywedodd Richard Brunstrom, sy’n 71 oed, wrth farnwr yn llys Llandudno ddydd Mercher, ei fod yn “rhwystredig”.
“Dwi’n anhapus iawn bod y llwybr troed yma wedi bod ar gau’n anghyfreithlon ers 452 diwrnod,” meddai.
“Mae gan y cyhoedd hawl i ddefnyddio’r llwybr yma.”
Dywedodd ei fod wedi ysgrifennu ddwywaith at Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ofyn am drafodaeth rheoli achos, ond bod yr awdurdod wedi ateb: “Na, dydyn ni ddim am siarad â chi.”
Dywedodd Majeya Haque, cyfreithiwr y cyngor, fod yr awdurdod wedi siarad â Chyfoeth Naturiol Cymru, rheolwr y tir, ond nad oedden nhw’n gallu gwneud y gwaith clirio.
Roedd contractwr y cyngor ei hun yn credu na fyddai’n ddiogel gwneud y gwaith oedd ei angen.
Dywedodd barnwr y rhanbarth Gwyn Jones fod dwy ddeddf yn gwrthdaro yn y mater, sef y Ddeddf Priffyrdd a'r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
Fe ohiriodd y cais am orchymyn i symud y rhwystr hyd nes gwrandawiad ym mis Mehefin.
“Dwi’n disgwyl i’r ddwy ochr gysylltu â’i gilydd,” meddai'r Barnwr Jones.
Dywedodd Mr Brunstrom fod y diffyg cyswllt wedi bod yn “hynod siomedig”.
Ychwanegodd fod contractwyr arbenigol yn barod i wneud y gwaith clirio coed.
Fe wnaeth Mr Brunstrom ymddeol bron i 13 mlynedd yn ôl.
Yn ystod ei gyfnod yn arwain Heddlu Gogledd Cymru, roedd Mr Brunstrom yn aml yn y penawdau - gan gynnwys pan alwodd am gyfreithloni cyffuriau a gwirfoddoli i gael ei daro â gwn taser.
